Main content

Rownd Derfynol Cwpan Cymru - Y Drenewydd v Y Seintiau Newydd

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gyda ffeinal Cwpan Cymru yn erbyn y Seintiau Newydd o’u blaenau y Sadwrn yma, cael crasfa o chwe gôl i ddim fydda’i peth diwethaf y byddai’r Drenewydd wedi ei ddymuno.

Ond dyna beth a ddigwyddodd wrth iddynt lithro oddi cartref yn Airbus yn eu gem olaf yn Uwch gynghrair Chwaraeon Corbett Cymru. O leiaf bydd gan y Drenewydd y fantais o gynnal y ffeinal ar eu maes eu hunain, er waethaf syndod mewn rhai mannau.

Fodd bynnag, yn ôl rheolau newydd UEFA, bydd rhaid iddynt ennill y gwpan os cymhwyso ar gyfer Ewrop y tymor nesaf. Petaent yn llwyddiannus, nid dyma fydd yr unig dro i weld gem Ewropeaidd ar Barc Latham Paveways.

 Cyfarfu’r Drenewydd a Skonto Riga o Latfia yn ôl yn 1996 gan golli o bedair gôl i un, ac yna dwy flynedd yn ddiweddarach cafwyd gem gyfartal di-sgor yn erbyn Wisla Krakow. 

Roedd torf dda ym mhob un o'r ddwy gêm, gyda mil a dau gant yn gweld y Dre yn wynebu'r tîm o Wlad Pwyl.

Mae swyddogion y Drenewydd wedi gweithio’n galed dros yr wythnosau diwethaf i gynnal ffeinal Cwpan Cymru gyda nifer o weithgareddau cymunedol wedi cael eu cynnal er mwyn creu diddordeb o fewn y dre a'r ardal.

 Dyma yn wir ymddangosiad cyntaf y Drenewydd yn y ffeinal ers 1897 pan gollwyd i Wrecsam o ddau gol i ddim ar faes criced Croesoswallt o flaen torf o chwe mil.

 Fodd bynnag bu’r Drenewydd yn llwyddiannus dwy flynedd yn gynharach - y tro yma yn curo Wrecsam o dair gôl i ddwy yn y Trallwng.

Ym mlynyddoedd cynnar y gêm yng Nghymru, roedd pêl droed yn ardal y Drenewydd yn ffynnu a'r timau yn arloeswyr wrth iddynt ymddangos mewn dwy ffeinal arall, yn aflwyddiannus. Colli o bedwar gôl i ddim yn erbyn y Derwyddon oedd yr hanes yn 1886, ac o bum gol i ddim yn erbyn y Waun yn 1885.

Cafodd eu rhagflaenwyr, Newtown White Stars, lwyddiant wrth ddod yn fuddugol yn ail dymor Cwpan Cymru (1879) wrth guro Wrecsam o un gôl i ddim yna colli yn y ffeinal dwy flynedd wedyn, y tro yma o ddau gol i ddim yn erbyn y Derwyddon. 

 Ond, wrth olrhain hanes y gêm yn ardal y Drenewydd fe ddown i nodi fod tîm o’r enw'r Drenewydd, yn ogystal â thim Newtown White Stars wedi chwarae dwy o’r gemau cyntaf erioed yng Nghwpan Cymru.

Cafodd tîm y Drenewydd gem gyfartal o un gôl yr un yn erbyn y Derwyddon ( cyn colli yn yr ail chwarae) , ac fe lwyddodd y White Stars i guro Rhiwabon o un gôl i ddim yn rownd gyntaf y gwpan ar y trydydd ar ddeg o Hydref , 1877.

Ond mae’r Seintiau Newydd hefyd yn gallu olrhain hanes sy’n mynd yn ôl i gychwyn pêl droed yn oes Fictoria.

Tra roedd y ddau dîm o’r Drenewydd yn cystadlu yn y rownd gyntaf, yng nghystadleuaeth gyntaf Cwpan Cymru, roedd tîm o’r enw Croesoswallt hefyd yn gwneud eu marc. Chwalwyd tîm y Waun o ddeuddeg gol i ddim yn y rownd gyntaf, ac mae’r Gwpan wedi cael ei ennill gan dimau o ardal Croesoswallt nifer o weithiau dros y blynyddoedd.

 Enillodd Oswestry White Stars y gwpan yn 1884, yna Oswestry United yn 1901, cyn i ragflaenwyr y Seintiau, Llansantffraid guro'r Barri yn 1996, ac yna yn 2005 ar ôl gweld cyfuniad o dîm Llansantffraid gyda thîm Tref Croesoswallt gan ffurfio Total Network Solutions a ddaeth yn fuddugol yn 2005 pan drechwyd Caerfyrddin yn y ffeinal.

Newidiwyd enw'r tîm eto yn 2006 pan sefydlwyd y Seintiau Newydd ac fe gipiwyd Cwpan Cymru yn 2012, wrth iddynt guro Derwyddon Cefn ac yna'r llynedd wrth drechu Aberystwyth.

Fodd bynnag, tîm sydd ond wedi colli unwaith yn Uwch gynghrair Cymru eleni ydi’r Seintiau, yr unig dîm proffesiynol llawn amser yn Uwch gynghrair Cymru ac sydd yn ffefrynnau i gipio'r gwpan am yr ail dymor yn olynol.

Mae yna ddisgwyl am dorf fawr ar gyfer y Ffeinal yma, a bydd cael ei chynnal er faes un o'r timau sy'n cystadlu yn siŵr o fod o gymorth yn hyn o beth.

Os bydd y Drenewydd yn ennill yna bydd pêl droed Ewropeaidd yn ôl at Barc Latham Paveways yr haf yma, ond os fydd y Seintiau yn llwyddo, yna bydd hyn yn agor y drws i'r tîm sydd wedi gorffen yn y trydydd safe yn Uwch gynghrair Cymru ,sef Airbus, i gystadlu yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Ewropa'r tymor nesaf.

 Digon i chwarae amdano a gobeithio y ceir torf fawr yn y Drenewydd ar gyfer y ffeinal yma rhwng dau dim o ganolbarth Cymru.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon