Main content

Geirfa Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr: Ebrill 28, 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Dylan Jones - 9Bach

grwp gwerin - folk group

prif leisydd - chief vocalist

pledleisio - voting

y foment fuddugol - the moment of victory

doeth - wise

canu'n fyw - singing live

enwebu am y wobr - to nominate for the prize

braint - privilege

ton o emosiwn - a wave of emosion

cynhyrfu - to excite

...sgwrs efo Lisa Jên o’r grwp 9Bach, y bore ar ôl i’w halbwm Tincian ennill gwobr albwm y flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin Radio 2. Cafodd y seremoni ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd eleni. Dyma Lisa Jên mewn sgwrs efo Dylan Jones yn dweud hanes y noson...

Stiwdio - Opera

cymunedol - community based

rhywfaint o symudiadau - a few movemants

cynhyrchiad - production

arwydd o gyffro - a sign of agitation

anfodlonrwydd - unwillingness

yn fwy perthnasol - more relevant

creadigol - creative

clyweliadau - auditions

prif nodweddion - main features

unawdwyr - soloists

...Lisa Jên o’r grwp 9Bach yn llawn cyffro ar ôl i'r grwp ennill gwobr albwm y flwyddyn. Mi wnawn ni aros efo cerddoriaeth rwan ond byd yr opera sy ganddon ni yma yn hytrach na chanu gwerin. Mae Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio opera o'r enw 'Gair ar Gnawd' sydd efo cysylltiad agos iawn â'r gymuned. Mae yna gorws cymunedol yn cymryd rhan yn yr opera. Buodd Nia Roberts yn sgwrsio efo Pwyll ap Sion, Menna Elfyn, Ruth Evans a Jenny Pearson am yr opera ar raglen Stiwdio ddydd Mawrth, a dyma i chi flas ar y sgwrs...

Bore Cothi - O M Edwards

eitha cydwybodol - fairly concientiously

mwydro - to bewilder

hoelio'r sylw - to nail the attention

difyr - diddorol

rhagair - foreword

delwedd - image

hyrwyddo Cymreictod - to promote Welshness

cyfnod - period

blodeuog - flowery

bocha - to mess with

Hanes yr opera 'Gair ar Gnawd' yn fan'na. Mae Maureen Rhys yn actores enwog iawn yng Ngymru. Mae hi wedi actio mewn llawer iawn o ddramâu ar y teledu ac ar y llwyfan. Darllen llythyrau oedd ei pherfformiad diwetha hi. Nid unrhyw lythyrau cofiwch, ond llythyrau'r hanesydd, addysgwr a'r awdur, O M Edwards a’i wraig Elin. Dyma hi'n sôn am y perfformiad efo Shan Cothi ddydd Iau diwetha...

C2: Lisa Gwilym - Stiwdio Bryn Derwen

crynhoi - to summarize

hudolus - magical

coedwig - forest

tylluan - an owl

deflrydol - ideal

clamp o ystafell - a huge room

synau - sounds

technoleg - technology

perchennog - owner

anhygoel - incredible

Maureen Rhys yn fan'na yn son am lythyrau O M Edwards ac Elin ei wraig. Hanes stiwdio recordio go arbennig sydd ganddon ni i orffen y podlediad yr wythnos yma. Stiwdio Bryn Derwen ger Bethesa yng Ngwynedd ydy hi, ac mae hi wedi cael ei defnyddio i recordio gwaith bandiau Cymraeg a Saesneg. Dave Wrench fuodd yn cofio rhai o'r straeon am y stiwdio efo Lisa Gwilym ar C2 ddydd Mercher...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gemau Merched Cymru