Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 2il o Fehefin 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dylan Jones - BGT



be andros? - what on earth?

sioe gerdd - musical (show)

sylw - attention

o ddifri - serious

mor angerddol - so passionate

llwyfan - stage

newid agwedd - a change of attitude

rhywun hollol ddieithr - a total stranger

megis dechrau - just the beginning

TGAU - GCSE



...clip sy'n cysylltu dwy gystadleuaeth - Britains Got Talent a'r gystadleuaeth llawer pwysicach na hynny -- Eisteddfod yr Urdd. Os dach chi wedi bod yn gwylio Britain's Got Talent mae'n debyg y byddwch chi'n nabod yr enw Jodi Bird, o Ysgol Gyfun Bro Morgannwg. Daeth Jodi yn drydydd yn y rownd cyn-derfynol - y semis - ond yn anffodus wnaeth hi ddim symud ymlaen i’r rownd derfynol. Dyma hi'n siarad efo Dylan Jones ddydd Mawrth am y gystadleuaeth, ond hefyd am ei phrofiadau hi yn Eisteddfod yr Urdd...

O'r Maes - Eisteddfod yr Urdd



alaw werin - folk song

iau - younger

ieir - hens

mi ddaru fi - wnes i

bathodynau diri - multitude of badges

o fri - renowned

nain - mam-gu

stondin - stall



Llais hyfryd Jodi Bird yn fan'na, ond heb gael llwyfan mewn Eisteddfod yr Urdd? Mae rhywbeth o'i le am hynny. Ond wyddoch chi be, mi gafodd Jodi lwyfan wythnos diwetha, a nid yn unig hynny ond mi enillodd hi gystadleuaeth y Gân o Sioe Gerdd yn yr Eisteddfod. Da ynde? Arhoswn ni efo Eisteddfod yr Urdd rwan a chlywed rhan o sgwrs gafodd Nia Lloyd Jones efo Rhys Llewelyn Williams, ar ôl iddo fo gystadlu yng nghystadleuaeth Alaw Werin blwyddyn chwech ac iau. Enillodd Rhys y gystadleuaeth, ond siarad am ieir wnaeth Nia efo fo...

Galwad eto - Gwerthu wyau



unigryw - unique

disgyblion - pupils

buddsoddi - to invest

ail-gylchu - recycle

pecynnu - packaging

arddangos - to show

cymorthyddion - assistants

addasu - to adapt

safonau llythrennedd a rhifedd - literacy and numeracy standards

deor - to hatch



"Yn tydy hi'n hyfryd clywed y fath dalent dwedwch? Gobeithio bod y wyau wedi plesio Nia ynde? Dan ni'n mynd i aros efo ieir rwan - Gerallt Pennant yn sgwrsio efo Ian Keith Jones, pennaeth Ysgol San Siôr, Llandudno, a rhai o blant yr ysgol am fusnes go arbennig sydd gan yr ysgol yn gwerthu wyau i fusnesau lleol. Dyma Geraint yn siarad efo'r pennaeth, y plant ac mi glywych chi'r ieir yn y cefndir hefyd..."

Dylan Jones - Twm Elias



y rhigol academaidd - the academic rut

Gweinyddiaeth Amaeth - Ministry of Agriculture

y berw - the turmoil

Carlo - Charles

ymchwil - research

porfa tir mynydd - highland pasture

diffyg polisi - lack of policy

dedfryd - sentence

cyfweliad - interview

drwy ryfeddol wyrth - miraculously



Ieir, plant a phennaeth Ysgol San Siôr Llandudno yn fan'na yn siarad efo Gerallt Pennant. Cael ei fagu ar fferm wnaeth ddechrau diddordeb Twm Elias ym myd natur. Erbyn hyn fo ydy un o arbenigwyr mwya Cymru ar y pwnc ac yr wythnos yma mi roedd o'n ymddeol o'i waith ym Mhlas tan y Bwlch ym Maentwrog. Bore Iau mi gafodd Dylan Jones sgwrs efo Twm a chael gwybod ychydig am ei hanes...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Llais y Seintiau Newydd yn Ewrop