Hwyrach na fydd Cymru yn ffeinals Cwpan y Byd yr wythnos nesaf, ond mae un tîm o Gymru newydd wneud ei farc ar y llwyfan Ewropeaidd yn yr Almaen.
Yr wythnos diwethaf cyflwynodd Ian Williams, prif weithredwr y Seintiau Newydd, amlinelliad o hanes a datblygiad y clwb i weithdy cyntaf Cymdeithas ClybiauEwrop yn i Commerzbank Arena yn Frankfurt.
Roedd yna gynrychiolaeth o dros hanner cant o dimau ar hyd a lled Ewrop, ac yn ogystal â chlywed am ddatblygiad y Seintiau Newydd, cafwyd hefyd gyflwyniad tebyg gan brif weithredwr clwb Benfica o Bortiwgal, a hefyd gan gadeirydd Clwb Brugge o Wlad Belg.
Gyda gofynion newydd UEFA yn canolbwyntio ar ddangos cynaladwyedd o fewn y clybiau, roedd yna lawer o ddiddordeb yn cael ei ddangos ar drefniadau parhaol y tri chlwb yma wrth iddynt egluro trefn a rhannu eu harferion da gydag eraill.
Ar ôl y cyflwyniadau, cafwyd panel holi ac ateb, gyda chynrychiolwyr o glybiau PSV Eindhoven o’r Iseldiroedd, Maccabi Tel-Aviv o Israel a Ferencvaros o Hwngari yn cymryd rhan.
Dwedodd Ian Williams ei fod yn fraint cael bod yn rhan o'r gynhadledd yma a chyflwyno cynlluniau'r Seintiau Newydd i glybiau Ewrop.
Da felly gweld bod llais Uwch Gynghrair Cymru yn cael sylw teilwng ar y cyfandir a'r gynghrair ei hun yn cael ei ystyried llawn mor bwysig o fewn y gêm a chynghreiriau eraill , llawer mwy enwog, cyfoethoga phrofiadol.
