Main content

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr: Chwefror 17eg - 23ain 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Geraint Lloyd - Patagonia

sawl blwyddyn - many years

yn werth bob eiliad - worth every second

gwledydd - countries

cymaint o bethau - so many things

diwylliant - culture

agweddau - aspects

"Mae Gwenno Rees o Efail Isaf ger Pontypridd yn mynd i Batagonia am ddeg mis i weithio fel athrawes Gymraeg yno. Ydy hi'n edrych ymlaen at fynd? Be fydd hi'n ei wneud yno? A be wneith hi ar ddiwedd y deg mis? Dyma rai o'r cwestiynau gofynnodd Geraint Lloyd iddi hi ddydd Llun diwetha..."



Rhaglen Geraint Lloyd - Amgueddfa Radio

rhan flaenllaw iawn - a very prominent role

danfon - to send

darganfod - to discover

tonfeydd radio - radio waves

olrhain - to trace

cyfraniad - contribution

y genedl Gymreig - the Welsh nation

arddangosfa - exhibition

allweddol - significant (key)

deillio o - to emanate from

"Pob lwc i Gwenno ar ei thaith i ochr arall y byd ynde? Falle eich bod yn nabod Ioan Talfryn fel un o'r tiwtoriaid ar y rhaglen Cariad@Iaith a fo ydy cyfarwyddwr Cwmni Popeth Cymraeg yn Ninbych. Un o'r bobl fuodd yn helpu Ioan Talfryn i gael y cwmni ar ei draed oedd David Jones oedd hefyd a diddordeb mawr mewn hanes radio. Ac erbyn hyn nid gwersi Cymraeg yn unig sydd i'w cael yn adeilad Popeth Cymraeg yn y dre, fel buodd Ioan yn sôn wrth Geraint Lloyd... "



Bore Cothi - Hwylfyrddio

hwylfryddio - windsurfing

math o hwylio - a kind of sailing

nôl ac ymlaen - back and forth

cydbwysedd - balance

ar hap a damwain - accidentally

brwyn - rush

cydio - to grasp

yr hwyl - the sail

dy nod di - your aim

nod tymor hir - long term aim

"Ioan Talfryn yn fan'na yn rhoi ychydig o hanes amgueddfa radio yn Ninbych. Hwylfyrddio oedd un o themâu rhaglen Bore Cothi ddydd Mawrth. Cafodd Shan sgwrs efo Catrin Williams o Gaernarfon sy’n dipyn o seren ym myd hwylfyrddio."



Bore Cothi - Pontydd

stori arswyd - horror story

eithriadol - exceptional

ysbrydion - spirits

carnau ceffylau - horses' hooves

nes ac yn nes - nearer and nearer

andros o wib - really quickly

sgrechfeydd - screeches

gweyru ac udo - nieghing and howling

gwich olwyn - creak

tawelwch llethol - total silence

"Catrin Williams o Gaernarfon oedd honna yn gobeithio bod yn rhan o dîm hwylfyrddio Prydain ar gyfer y gemau Olympaidd yn y dyfodol. Dydd Mercher diwetha roedd hi’n ddiwrnod y Pontydd. A phontydd oedd thema sgyrsiau rhaglen bore Cothi y diwrnod hwnnw. Cafodd Shan sgwrs efo'r storïwraig Mair Tomos Ifans am ambell i stori arswyd sy'n ymwneud â phontydd..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Uwch Gynghrair Cymru - Ni a Nhw

Nesaf

VAR - gwelliant yntau cur pen i bel-droed?