Faint o bobl, a oedd yn Wembley, gafodd eu drysu oherwydd dylanwad cynorthwy-wr fideo'r dyfarnwr (VAR) nos Fercher diwethaf yn y gêm gwpan rhwng Tottenham a Rochdale?
Gwahanol iawn i'r rheini ohonom a oedd yn dilyn y gêm yn fyw ar y teledu gan dderbyn eglurhad o’r hyn a oedd yn digwydd?
Cychwynodd popeth ar ôl saith munud wrth i Fernando Llorente ddal y bel i fyny cyn pasio i Erik Lamela, ac yntau'n sgorio. Ond na, meddai’r dyfarnwr yn yr ystafell dechnegol, bu trosedd gan Llorente wrth dderbyn y bel, cyn pasio i Lamela.
Yna, ar ôl ugain munud gwrthodwyd cic o'r smotyn i Tottenham, a munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Son i Tottenham ond bu angen aros hydoedd cyn deall bod y gôl yn ddilys ac yn cael ei chaniatáu.
Dau funud arall, trosedd wrth i Matt Done faglu Kieran Trippier y tu allan i'r cwrt cosbi, a’r symudiad yn tynnu’r ddau i mewn i'r cwrt cosbi. Oedi eto, cyn penderfynu mai cic o'r smotyn ydi'r penderfyniad technegol. Ond, doedd y ddrama ddim yn drosedd, penderfynodd y VAR fod Son wedi troseddu wrth aros a ffugio wrth gymryd y gic, felly dim gôl!
Sgoriodd Rochdale, ond ddim cyn gwirio’r gôl yn dechnegol, ac ar doriad yr egwyl toriad arall i benderfynu os oedd tacl Lamela ar Callum Camps yn deg.
Erbyn hyn, roedd y dyrfa wedi eu drysu’n hollol, gyda dim eglurhad iddynt am yr holl ddigwyddiadau a gafodd eu gwirio.
Yn yr ail hanner, defnyddiwyd y VAR dair gwaith, i wirio ail, trydydd a phumed gôl Tottenham.
Ymddengys y gellir defnyuddio’r VAR i wirio pedwar agwedd, sef goliau, ciciau o’r smotyn, cardiau coch, a cham-adnabod chwaraewyr wrth ddyfarnu cardiau coch neu felyn, ac ymhob achos rhaid gweithredu os yw penderfyniad gwreiddiol y dyfarnwr yn anghywair.
Wel, yn y gêm yma, cafwyd yr holl agweddau a rheini i gyd yn yr hanner cyntaf.
A’r penwythnos yma, fe fydd bwrdd rhyngwladol swyddogion FIFA yn cyfarfod i benderfynu os fydd y drefn dechnegol yma yn cael ei defnyddio yng ngemau Cwpan y Byd yn Rwsia yn ystod yr haf, ac os ydi digwyddiadau nos Fercher yn unrhyw arwydd, yna fe allwn ddisgwyl llond trol o ddryswch yn ymestyn o Moscow i Yekaterinburg bell!
Yn y cyfamser, mae yna farn ymysg y byd pêl droed, gan gynnwys dyfarnwyr, y dylid rhoi gwybodaeth i'r cefnogwyr am yr hyn sydd yn digwydd, ar y sgrin gyhoeddus, pan ddefnyddir ymyrraeth gan ddyfarnwr y VAR, fel y gwelir mewn gemau rygbi gynghrair a chriced.
Hwyrach, hwyrach ddim, ond d’oes neb yn gwneud yr un math o stŵr mewn gemau heb VAR, pan mae’r dyfarnwr a'i gynorthwywyr yn cyfarfod ar ochr yr ystlys a’u dwylo dros eu cegau, wrth drafod penderfyniad mewn gem.
Felly, a ddylid gwrando ar y sgwrs yma hefyd, fel ac a geir mewn rygbi'r undeb, mewn gemau rhyngwladol .
Does wybod beth a ddigwydd yn sgìl y digwyddiadau yn Wembley nos Fawrth,
Does wybod beth allai ddigwydd yn Rwsia yng Nghwpan y Byd, ond, allai ddim meddwl fod Rochdale druan wedi cael cymaint o sylw erioed mewn gem, er iddyn nhw golli yn y diwedd o chwe gôl i un!
