Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Mawrth 18fed - Mawrth 24ain

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Bore Cothi - Ffilm

cael eu cyfweld - being interviewed

yn gyfangwbl - totally

ystrydebol - stereotyped

mi grïes i - I cried

ail-afael yn ei gyrfa - rekindle her career

yn gyfarwydd - familiar

hap a damwain - purely accidental

angladd - funeral

hunanol - selfish

ymfalchïo - to take pride in oneself

"...dwy actores Gymraeg yn sgwrsio efo Shan Cothi am ffilm gomedi newydd The Time of Their Lives. Dwy actores Hollywood ydy sêr y ffilm, Joan Collins a Pauline Collins. Gofynnodd rhaglen Bore Cothi i’r ddwy actores o Gymru Christine Pritchard ac Olwen Rees fynd i weld y ffilm a bore Mawrth mi ddaethon nhw ar y rhaglen i ddweud beth oedden nhw'n feddwl ohoni..."



Dewi Llwyd - Philyp Hughes

cerddor - musician

pa mor debyg? - how similar?

awdurdodol - authoritative

meddalu - to soften

un o'r goreuon - one of the best

digonedd - plenty

plentyndod - childhood

ffynnu - to flourish

awgrym - a suggestion

ffefryn - favourite

Christine Pritchard ac Olwen Rees yn fan'na yn rhoi eu barn am y ffilm The Time of Their Lives ar Bore Cothi. Mae Joan Collins yn wythdeg pedwar oed eleni, ond actor a cherddor o Gymru sydd yn dathlu ei benblwydd yn wythdeg oed oedd gwestai penblwydd arbennig Dewi Llwyd ddydd Sul. Mae Phylip Hughes wedi actio mewn sawl ffilm ac mewn nifer o ddramau yn theatrau Cymru a Lloegr. Ond falle ei fod yn fwy enwog erbyn hyn am ei ran fel Mr Lloyd yn y gyfres boblogaidd 'Rownd a Rownd' ar S4C. Pa mor debyg ydy Phylip i Mr Lloyd? Dyna oedd Dewi Llwyd eisiau ei wybod...



Aled Hughes - Dilwyn Morgan

traddodiad - tradition

cychod a llongau - boats and ships

y fraint - the honour

ofergoelion - superstitions

mordaith - cruise

clymu - to tie

noeth - naked

tawelu - to calm

cerflun - statue

chwibanu - whistling

"...a dyna i chi ddipyn o hanes yr actor Phylip Hughes, gwestai penblwydd Dewi Llwyd. Falle eich bod chi wedi gweld Dilwyn Morgan ar S4C yn ogystal. Mae o a John Pierce Jones wedi bod yn cymryd rhan mewn rhaglen o'r enw 'Codi Hwyl' oedd yn dilyn taith y ddau yn hwylio o gwmpas Iwerddon. Mystique oedd enw'r cwch wnaethon nhw ei hwylio ar y daith honno. Roedd Aled Hughes wedi clywed bod yna draddodiad wrth enwi cychod a llongau, felly pwy well i'w holi na Dilwyn Morgan. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."



Bore Cothi - Bois y Fro

grwp lleisiol - vocal group

gosod y sylfaen - to lay the foundation

cryno-ddisg - CD

clawr - cover

cyfarwydd iawn - very familiar

digyfeiliant - unaccompanied

seibiant - a break

datblygu - to develop

arddull - style

diddanu - to entertain

"Dilwyn Morgan oedd hwnna yn siarad efo Aled Hughes am rai o draddiadau cychod a llongau. Bore Mercher mi roedd Shan Cothi wrth ei bodd o gael Barry Powell, aelod o grwp lleisiol o ddynion o ardal Aberystwyth, Bois y Fro, i gadw cwmni iddi ac i drafod eu CD newydd. Dyma Barry'n rhoi dipyn o hanes Bois y Fro... "

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Bwyta yn ystod gemau pel-droed

Nesaf