Main content

Bwyta yn ystod gemau pel-droed

Gareth Iwan Jones

Uwch Gynhyrchydd Cerddoriaeth

Be oeddech chi’n ei fwyta wrth chwarae pêl droed? I'r rhan fwyaf ohonom , doedd hynny ddim byd mwy na chnoi gwm (am ba bynnag rheswm) ac i rai eraill nid bwyta yn ystod gem oedd yn cael ei ystyried, ond beth i'w fwyta cyn y gêm.

Mae gan bron pob tîm, ar y lefelau uchaf, staff fel maethegydd erbyn hyn, sy’n sicrhau fo dyna gyd bwysedd da i'r hyn mae'r chwaraewyr yn ei fwyta gan gynnwys y mesurau gorau o garbohydradau, protein, a fitaminau, yn ogystal â beth i’w yfed.

Tybed felly a oedd Wayne Shaw, golwr wrth gefn Sutton United yn ymwybodol o’r angen i fwyta’n iach ar gyfer gemau wrth frathu i mewn i bastai tra roedd ar y fainc yn y gêm gwpan yn erbyn Arsenal.

Mae hanes Shaw yn eithaf adnabyddus erbyn heddiw, ond tipyn o sioc oedd gweld amddiffynnwr Manchester United, Marcos Rojo, yn derbyn banana i'w fwyta yn ystod yr ail hanner yn eu gem Ewropeaidd yn erbyn Rostov, gan wedi i'w basio iddo gan Ashley Young drwy law Jose Mourinho wrth ochr y cae!

Yn wir, mewn gem mor wael ei safon aeth llawer ati ar wefannau cymdeithasol i honni mai dyma oedd pass orau’r noson!

Ond nid Rojo ydi unig chwaraewr United i fwyta yn ystod y gêm. Pan yn chwarae i dîm PSG (Paris) , taflodd rhywun baced o gnau mwnci i gyfeiriad Zlatan Ibrahimovic. Methodd y troseddwr a tharo’r blaenwr, felly, yn ei arddull hamddenol unigryw ei hun, plygodd Zlatan i lawr i godi'r pecyn gan fwyta’r cynnwys!

Mae mwy nag un ffodd o gael eich dannedd i mewn i rywbeth , a phwy all anghofio ymddygiad Luis Suarez pan honnwyd iddo frathu Branislav Ivanovic o Chelsea men gem ar Anfield nol yn 2013, cyn cael ei gyhuddo o rywbeth tebyg i Georgio Chiellini o Uruguay yng Nghwpan y Byd ym Mrasil y flwyddyn ddilynol.

Gyda nifer o gemau rhyngwladol o'n blaenau'r penwythnos yma, tybed a fydd yma ryw flas ar dir am ryw fwyd cenedlaethol petai unrhyw chwaraewr ar fin newynu yn sgil ei ymdrechion dros ei wlad?

Tybed a welwn chwaraewyr Gweriniaeth Iwerddon yn brathu i mewn i daten drwy’r crwyn petai pethau’n mynd yn anodd iddynt yn erbyn Cymru nos Wener?

Ar y llaw arall, ymddengys fod cennin yn isel mewn calorïau ac yn llawn fitaminau iachus !

Does wybod beth a welwn nesaf gyda’r byd pêl droed yn prysur fynd yn hollol bananas bron yn wythnosol!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dechrau diwedd tymor

Nesaf