Main content

‘Llyfr Bob Wythnos’ - Pennod Newydd Yn Y Boreau Ar Radio Cymru

Newyddion

Bydd BBC Radio Cymru yn cynnig amser paned go arbennig i wrandawyr yn y boreau o ddechrau Mehefin. Cyfle i roi’r tegell ar y tân, eistedd yn gysurus am ryw wyth neu naw munud, fymryn cyn 11am bob dydd, a mwynhau Llyfr Bob Wythnos.

Mae ambell lyfr y mae rhywun eisiau cael blas ohono cyn ei brynu. Mae hanes ambell unigolyn y byddai rhywun am fusnesa yn ei gylch cyn prynu ei hunangofiant. Ac mae ambell nofel y byddech wrth eich bodd yn cael ei chlywed, yn ogystal â’i darllen.

O ddechrau Mehefin, bydd Radio Cymru yn diwallu’r awydd hwnnw. Bob wythnos bydd rhaglen Bore Cothi yn cyflwyno llyfr - yn nofel, yn hunangofiant, yn lythyrau neu straeon - a hynny mewn pum rhan wedi eu darllen gan yr awdur neu gan actor. Yn y mis cyntaf bydd Manon Steffan Ros yn darllen rhannau o’i nofel Blasu, fe glywn ni ran o hunangofiant Meic Povey - Nesa Peth i Ddim, ynghyd â Dyn Pob Un Euron Griffith, a hunangofiant arwr rygbi Llanelli, Cymru a’r Llewod, Delme Thomas, Delme.

Shan Cothi



“Dyma gyfle ardderchog i fwynhau llenyddiaeth gyfoes Gymraeg yn cael ei ddarllen yn fywiog a graenus bob dydd,” meddai Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru.

“Rydyn ni fel gorsaf eisiau cyflwyno’r gorau i’n cynulleidfa. Ry’n ni eisoes yn gwneud hynny drwy ein rhaglenni sgwrs, ein trafodaethau, y rhaglenni newyddion, yn ogystal â’r dramâu a’r gerddoriaeth. Mae’r bardd preswyl a’r Talwrn yn ein tywys i fyd yr awen, ond doedd gyda ni ddim llwyfan i’n llenorion. Dyma lenwi’r bwlch hwn gyda deugain cyfrol yn cael eu cyflwyno mewn blwyddyn. Rydw i wrth fy modd ein bod yn gallu cyd-weithio gyda’r gweisg, a chyda Cyngor Llyfrau Cymru i adlewyrchu’r cyfoeth llenyddol sydd yn cael ei gyhoeddi o wythnos i wythnos. A diolch iddyn nhw am ddechrau pennod newydd yn hanes Radio Cymru.”

Ychwanegodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym yn croesawu'r datblygiad cyffrous hwn yn fawr gan wybod y bydd yn cael ei fwynhau a'i werthfawrogi gan ddarllenwyr ledled Cymru. Rhoi blas o'r llyfrau yw'r nod a bydd hynny'n sicr o bwysleisio'r dewis sydd ar gael, safon y gweithiau a natur amrywiol y cyfrolau, boed yn nofelau, cofiannau neu'n gasgliadau o straeon a barddoniaeth.

“Does dim cyflwyniad gwell i lyfr na'i glywed yn cael ei ddarllen. Cymerwch hoe i wrando - rydym yn sicr y byddwch yn mwynhau.”

Llyfr Bob Wythnos

10.50am bob dydd yn ystod Bore Cothi ar BBC Radio Cymru

Dechrau Mehefin 2ail, 2014

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Ffeinal Cwpan Cynghrair Pencampwyr Ewrop