Main content
Mae’n ddrwg gennym, ‘dyw’r clip yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Blasu - Pennod 1

Pennod 1af addasiad nofel Manon Steffan Ros ar gyfer Radio - Blasu

Rysáit Mai Davies
Cymdoges
1937

Cacen Sinsir
4 owns o siwgwr caster
5 owns o fenyn
1 wy
10 owns o flawd plaen
1 1/2 llwy de o soda pobi
2 lwy fwrdd o sinsir powdr
1 llwy de o sinamon powdr
Hanner llwy o de glof powdr
180ml o surop euraidd
40ml o driog
2 belen fach o sinsir (stem ginger)
250ml o ddŵr poeth

Cynheswch y ffwrn i 180c.
Irwch dun cacennau 9 modfedd sgwâr yn barod.
Cymysgwch y menyn a'r siwgwr tan ei fod yn hufennog.
Ychwanegwch yr wy, ac yna'r surop a'r triog. Gratiwch y sinsir i mewn i'r gymysgedd, a chymysgu'n drylwyr.
Nithiwch y blawd, y soda pobi a'r sbeisys, a'u cymysgu i'r menyn.
Ychwanegwch y dŵr poeth, a phobi'r cyfan am awr, neu nes bod llafn sy'n cael ei blannu ynghanol y gacen yn dod allan yn lan.
Bydd y gacen yn well o gael ei gadael am rai dyddiau.

Hyd:

7 o funudau

Daw'r clip hwn o