Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Caryl - Dillad vintage
curadur amgueddfa - museum curator
yn dueddol o - tends to
llewys - sleeves
sefyll mas - to stand out
hoff ddylunwyr - favourite designer
llwyth o lefydd gwahanol - loads of different places
poblogrwydd - popularity
cynyddu - increasing
dillad ail-law - second hand clothes
chwilota - to look for
"..roedd Fflur Gwynne, curadur yn Amgueddfa Sain Ffagan, ar raglen Caryl dydd Iau yn esbonio beth yn union ydy dillad 'vintage', pam mai'r saithdegau ydy ei hoff gyfnod hi yn hanes ffasiwn, a sut mae hi'n hoffi mynd o gwmpas siopau elusen i chwilio am ddillad..."
Bore Cothi - Crempog
crempog - pancake
cyfeirio at - refer to
difyr - diddorol
tomen - a heap
llaeth enwyn - buttermilk
risetiau - recipes
Dydd Mawrth Ynyd - Shrove Tuesday
blawd gwenith - wheat flour
burum - yeast
y gweision a'r morwyion - the servants and maids
"Fflur Gwynne oedd honna yn sôn wth Caryl am ddillad 'vintage'. Nesa - oes ganddoch chi syniad beth ydy cramoth, ffroes, a phancocos? Wel, enwau eraill ar grempog ydyn nhw, a dyma i chi'r hanesydd bwyd, Luned Davies Scott yn sgwrsio gyda Heledd ar Bore Cothi am y gwahanol ffyrdd o ddweud 'crempog' ar hyd ac ar led Cymru... "
Rhaglen Georgia Ruth - Vrï
aelodau - members
arddull - style
gwerin siambr - chamber folk
cysyniad - concept
cerddorddfa - orchestra
sbio - edrych
faint o wirionedd - how much truth
pedwarawd llinynol - string quartet
etifeddu - to inherit
hyfforddiant - training
"Felly be gaethoch chi ar Ddydd Mawrth Ynyd, crempog, pancos neu ffroes? Sdim ots cyn belled â'u bod nhw'n flasus, nac oes? Sgwrs ddiddorol iawn yn fan'na rhwng Luned Davies Scott a Heledd Cynwal. Mae Patrick Rimes, Jordan Williams ac Aneirin Jones yn aelodau'r grwp Vrï. Buon nhw'n perfformio sesiwn fyw (tair cân) ar raglen Georgia Ruth nos Fawrth. Mae nhw'n disgrifio eu harddull fel ‘gwerin-siambr', ac roedd Georgia eisiau gwybod beth yn union ydy ystyr ‘gwerin-siambr' ..."
Aled Hughes - 35 Diwrnod
y cyfresi blaenorol - the previous series
canolbwyntio - concetrating
cymeriad - character
marwolaeth - death
dadlau - arguing
am wn i - as far as I know
pennod - chapter
arwain at - leading to
o'r dechrau'n deg - from the very start
sefyllfa - situation
Aelodau'r grwp Vrï yn fan'na yn esbonio pa fath o gerddoriaeth ydy 'gwerin siambr'. Newyddion da - mae yna gyfres newydd o 35 Diwrnod ar S4C. Medrwch ei gweld hi am naw o'r gloch bob nos Sul. Peidiwch â phoeni os na dach chi wedi gweld y cyfresi blaenorol, dyma'r actor Owain Arthur yn rhoi blas i chi, ac i Aled Hughes, o'r hyn sy'n digwydd yn rhaglen gynta'r gyfres...
