Faint ohonom gafodd ein cyffroi ganol wythnos yn y gêm Ewropeaidd honno rhwng Barcelona a Paris St Germain?
Os ydych wedi bod ar blaned arall, llwyddodd Barca i droi colled o bedair gôl i ddim yn y cymal gyntaf i fod yn fuddugoliaeth o chwe gôl i un, ac felly’n camu ymlaen i rownd yr wyth olaf yng nghwpan pencampwyr Ewrop.
Y gêm orau a fu erioed? Efallai, mae’r wasg a'r cyfryngau cyfredol am i ni gredu hynny!
Ond, ble mae’r gêm yma yn sefyll o'i gymharu â buddugoliaeth Manchester United dros Bayern Munich yn ffeinal Cwpan Ewrop yn 1999, gyda dwy gol yn yr amser ychwanegol a roddwyd ar gyfer anafiadau yn sicrhau’r fuddugoliaeth i dîm Syr Alex?
Ble mae'r gêm yn sefyll o’i gymharu â buddugoliaeth Lerpwl yn ffeinal Cwpan Ewrop yn 2005 dros Milan? Gyda thîm Rafa Benitez ar ei hol hi o dair gôl i ddim ar yr egwyl, ac yna yn sgorio tair gwaith gan fynd a’r ffeinal i amser ychwanegol, cyn i giciau o'r smotyn weld y gwpan yn cael ei ennill gan y tîm o Lannau Merswy?
Ond, mae gemau eraill wedi bod, llawn mor gyffrous.
Mae gen i frith gof am gêm nol yn 1957, pan lwyddodd Charlton Athletic i guro Huddersfield o saith gol i chwech, a hynny ar ôl i Huddersfield fod ar y blaen ar ôl hanner awr, o bum gol i un!
Aeth Kilmarnock, o'r Alban, i Eintracht Frankfurt yn yr hen Fairs Cup yn 1964, gan golli o dair gôl i ddim. Yn yr ail gymal llwyddodd yr Albanwyr i ennill o bum gol i un, dim ond iddynt golli o chwe gôl i un dros ddau gymal yn erbyn Everton yn y rownd nesaf.
Tybed a welwn gemau tebyg o gwmpas cae Cymru'r penwythnos yma, fe alla’i ddigwydd.
Gair bach i orffen. Pan oeddwn yn chwarae i dîm Blaenau Ffestiniog yn fy ieuenctid, aethom i Barc Eirias i wynebu Bae Colwyn. Ar ôl ugain munud roeddem ar y blaen o bedair gôl i ddim. Ond rhywsut neu'i gilydd, roedd hyn yn brofiad anarferol, ac yn gymaint o sioc fel bod y profiad unigryw yma yn ormod i'w ddygymod !
Sgôr terfynol y gêm oedd Blaenau 4 , Bae Colwyn 8
Ie, fe all unrhyw beth ddigwydd, mewn unrhyw gêm ! Barcelona, Bayern neu’r Blaenau!!
Fel y dywed Dylan Jones – gwyliwch y goliau!
