Main content

Peldroed Merched a rhaglen "When Football Banned Football"

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Dechreuodd pencampwriaeth pêl droed UEFA i ferched yn yr Iseldiroedd y Sul diwethaf. Pedwar grŵp, gyda’r ddau dîm ar frig pob grŵp yn camu ‘mlaen i rownd yr wyth olaf sydd i gychwyn ar y nawfed ar hugain o Orffennaf, a’r ffeinal yn Enschede ar Awst y chweched.

I gyd fynd ac amseriad y twrnament, fe ddarlledwyd rhaglen hanesyddol am ffawd pêl droed merched yn Lloegr ar Sianel 4 yr wythnos yma.

Canolbwynt y rhaglen oedd tîm pêl droed merched ffatri adnoddau tramiau Dick, Kerr a’u cwmni, ym Mhreston.

Roedd merched yn cael eu cyflogi yma, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, i greu nifer o drennau injan fechan a anfonwyd i’r ffosydd, ond hefyd ond i wneud ffrwydron ar gyfer y milwyr a oedd yn brwydro yn y ffosydd, a thrwy hynny, y merched yn cyfrannu, mewn dull peryglus, at eu hymdrechion tuag at y rhyfel.

Erbyn 1917, er mwyn codi ysbryd y merched a hefyd fel sail i godi brwdfrydedd at y gwaith, o fewn y ffatri, fe benderfynwyd sefydlu tîm pêl droed ac fe gynhaliwyd cyfres o gemau pêl droed ymysg y merched ar amseroedd cinio.

Ar ôl curo dynion y ffatri mewn gem anffurfiol, fe benderfynwyd sefydlu tîm ac fe chwaraewyd eu gem gyntaf ar faes Preston north End yn Deepdale, yn erbyn tîm ffatri Arundel Coultard o flaen torf o ddeng mil, gyda thîm merched Dick, Kerr yn fuddugol o bedwar gôl i ddim.

Ysbardunwyd hyn ar sefydlu mwy o gemau , gemau elusennol, i godi arian ar gyfer milwyr a gafodd eu hanafu yn y rhyfel. Derbyniodd y merched ddeg swllt yr un ar gyfer eu treuliau i ‘r gemau.

Aethpwyd at i chwarae llawer mwy o gemau gan gynnwys gem ryngwladol yn 1920 yn erbyn tîm merched o Baris ac fe ddilynwyd hyn gyda thaith o gwmpas Ffrainc pan chwaraewyd pedair gem.

Aeth pethau o dda i well, ac ar ddydd Sant Steffan, 1920, fe ddaeth torf o bum deg tri mil i'w gweld yn chwarae yn erbyn merched St. Helens ar Barc Goodison yn Lerpwl.

Cymaint oedd poblogrwydd y tîm erbyn hyn, nes bod eu gemau yn cael eu cynnwys ar y newyddion a welwyd yn y sinemau (Pathe News) yn rheolaidd.

Ond, doedd y byd ddim yn felys.

Yn ôl y farn bresennol, roedd aelodau'r Gymdeithas Beldroed yn Lloegr, yn ddynion i gyd, wedi dod yn genfigennus o lwyddiant y merched, ac yn eu gweld fel bygythiad i gem y dynion, a hynny er waethaf cyfraniad y merched fel gweithwyr ffrwydron yn y ffatri yn ystod y Rhyfel Mawr.

Penderfynodd aelodau Cymdeithas Bel Droed Lloegr, nad oedd pêl droed yn gêm a oedd yn weddus i ferched, a gwnaethpwyd penderfyniad nad oedd pêl droed merched mwyach i'w gynnal na'i annog ar unrhyw gae ble roedd timau eraill (sef timau dynion) ble roedd aelodau o'r Gymdeithas yn chwarae. Petai’r merched yn chwarae ar y caeau yma, yna fe fyddai'r timau'r dynion a'r chwaraewyr unigol, yn cael eu diarddel o'r gymdeithas.

Fodd bynnag, parhaodd tîm Dick, Kerr gan deithio i'r Unol Daleithiau (ond fe’u gwaharddwyd rhag chwarae yng Nghanada) ac fe roddwyd sylw iddynt yn y Washington Post (Medi 23 , 1922) lle ceir cyfeiriad at y naw gem a chwaraewyd yn erbyn timau o ddynion. Enillwyd tair gem, cyfartal mewn tair arall, a cholli tair. Disgrifiodd y Fall River Evening Herald y gemau a gynhaliwyd yn Fall River, Massachusettes, fel un o'r digwyddiadau mwyaf ym mhêl droed a gynhaliwyd yn yr Unol Daleithiau.

Fe barhaodd y tîm hyd nes y chwedegau, gan newid eu henwau i dîm merched Preston, gan gynnal y gemau mewn caeau nad oedd o dan awdurdod y Gymdeithas Bel Droed.

Roedd rhaid aros hanner can mlynedd tan 1971 nes i'r gwaharddiad gael ei godi ac ers hynny mae pêl droed merched, yn enwedig yn y blynyddoedd diweddar wedi ffynnu.

Fodd bynnag fe gymerwyd tipyn o amser, ond mae newid agweddau yn rhywbeth sydd yn cymryd llawer o amser.

Faint ohonoch chi sydd yn adnabod pobol, heddiw, sydd yn methu dangos yr un diddordeb mewn pêl droed merched fel y maent yn ei ddangos mewn pêl droed dynion, ac mae hyn yn cynnwys merched a dynion o fewn ein cymunedau ?

I gloi, hwyrach y gallaf dynnu eich sylw at lythyr a ysgrifennwyd gan fam i bapur newydd y Globe and Mail ym Montreal , Canada ym mis Ebrill, 2016.

Cyfeiriodd y fam, Shan Evans, at adeg yn y naw degau pan symudodd y teulu i Gymru am flwyddyn sabothol yn eu swydd fel athrawon ac i'r ardal ble gafodd y fam ei magu.

Roedd eu merch a oedd yn hynod addawol mewn llawer o gampau, yn ddeg oed, ac fe ymunodd a’r ysgol gynradd leol . Siom fodd bynnag oedd deall nad oedd pêl droed yn cael ei chwarae gan y genethod yn yr ysgol, dim ond pêl rwyd. Roedd y timau eraill i gyd ar gyfer bechgyn.

Felly fe benderfynodd y fam ymuno a Chymdeithas Rieni yr ysgol a llwyddwyd i wneud gemau a chwaraeon yn fwy cynhwysol, ac fe agorwyd y drws i gynnwys genethod yn y timau pêl droed.

Gorffennodd Mrs Evans y llythyr drwy ddweud, " ... gyda llaw, mae fy merch, Rhian Wilkinson, yn chwarae i dîm cenedlaethol Canada, a enillodd y fedal efydd yn y gemau Olympaidd yn Llundain yn ddiweddar".

Ie, yr enillydd Olympaidd Gymreig nas gwyddom amdani, un na gafodd gyfle i chwarae mewn ysgol gynradd yng Nghymru nes i'w mham greu stwr! Pêl droed wraig sydd ymysg y gorau yn y byd ac a gynrychiolodd Canada ( ac fe allai fod wedi bod yn gynnwys i chwarae dros Gymru), mewn 180 o gemau, ac un nad oedd yn cael ei hystyried yn ddigon addas, ar un adeg, i gicio pêl yn ei hysgol gynradd yn ne Cymru.

Diolch byth fod agweddau cyfoes yn newid, ond, mae’n cymryd amser, ac yn aml mae angen dwyn perswâd!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf