Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhys Mwyn - Arddangosfa True Faith
arddangosfa - exhibition
Oriel Gelf - Art Gallery
Gwyl Ryngwladol - International festival
dylanwadu - to influence
dros y degawdau - over the decades
cafodd ei ysbrydoli - was inspired
yn uniogyrchol - directly
sylwi - notice
ymdeimlad - feeling
profiad - experience
"...rhaglen Rhys Mwyn, lle buodd Rhys yn sgwrsio efo Sam Rhys am Arddangosfa True Faith sy'n cael ei chynnal yn Oriel Gelf Manceinion tan ddiwedd Medi. Arddangosfa o gerddoriaeth a gwaith celf y bandiau Joy Division a New Order ydy hon ac mae'n rhan o Wyl Ryngwladol Manceinion... "
Gari Wyn - Wil Doben
Swisdir - Switzerland
Prif Swyddog Gweithredol - Chief Executive Officer
perthnasau - relatives
cyfle - opportunity
cadw mewn cysylltiad - keeping in touch
ieithoedd - languages
addysg gynnar - early education
ar yr un pryd - at the same time
ysgoloriaeth - scholarship
ddaru mi ddewis - I chose
"Sam Rhys oedd hwnna'n siarad efo Rhys Mwyn am Arddangosfa True Faith sydd yn Manceinion ar hyn o bryd. Wil Doben oedd gwestai Gari Wyn ar ei raglen amser cinio ddydd Llun. Mae Wil yn byw yn y Swisdir ac yn brif swyddog gweithredol cwmni Reprints. Mae ganddo swydd ddiddorol iawn efo'r cwmni ond mae ei stori bersonol hyd yn oed yn fwy diddorol na hynny. Mi gafodd ei eni a'i fagu yn Southport a doedd ei dad ddim yn siarad gair o Gymraeg. Gofynnodd Gari iddo fo sut lwyddodd o i ddysgu'r iaith ..."
Bore Cothi - Gareth Hughes
sêr - stars
ffilmiau tawel - silent movies
hyd yn oed - even
mynd yn hyn - getting older
llwyfan - stage
hynod o lwyddiannus - extremely successful
ugeiniau cynnar - early twenties
hudoli - mesmerize
atyniadol - attractive
caneuon - songs
"...Wil Doben sy'n siarad wyth iaith oedd hwnna, ac mae o'n hollol rugl yn y Gymraeg yn tydy o? Un o sêr cyntaf ffilmiau tawel Hollywood oedd Gareth Hughes o Lanelli. Dydd Mercher mi fuodd Jon Gower yn dweud ei hanes ar Bore Cothi. Dyma i chi flas ar y sgwrs... "
Aled Hughes - Paddleboard
mynd i drafferth - getting into difficulties
pengliniau - knees
o mam bach - OMG
rhwyf - a paddle
cynhesu - to get warm
trydydd coes - third leg
ar fin - on the verge of
cwch pleser - pleasure boat
stopia dy gwyno - stop complaining
adrodd ar lwyfan - reciting on stage
"Jon Gower yn fan'na yn rhoi ychydig o hanes Gareth Hughes, un o sêr ffilmiau tawel Hollywood. Mae Aled Hughes, chwarae teg iddo fo, yn fodlon trio unrhyw beth. Mi glywon ni glip ohono fo'n seiclo hyd a lled Cymru ar y podlediad rai wythnosau'n ôl. Dysgu sut i ddefnyddio rhwyf-fwrdd, neu paddleboard, ar Lyn Padarn yn Llanberis wnaeth o fore Gwener. Angela Evans oedd yn trio'i gorau i'w gael o i sefyll yn iawn ar y bwrdd. Sut hwyl gafodd o tybed?"
