Roedd y bws orlawn swnllyd yn ysgwyd wrth i ddwsinau o Fecsicanwyr fynd benben â Gwilym wrth floeddio caneuon i geisio celu'r siom amlwg o faglu'n greulon o agos i lan yr wyth ola.
Trodd un at Gwil ac yn llawn angerdd tarodd ei frest ei hun gan fynnu:
"YOU WILL NEVER WALK ALONE"
Diolch i grys coch Gwilym a'i unawd iasol o anthem y cochion, roedd y dyn mewn gwyrdd o'i gorun i'w sawdl wedi adnabod y Cymro crwydrol fel cefnogwr Lerpwl arall.
O leiaf dyna oedd yr argraff a roddwyd. Y realiti oedd mai crys Cymru oedd Gwil yn ei wisgo a 'Hen Wlad Fy Nhadau" oedd yr anthem a floeddiwyd!
Wedi dau dymor yn dilyn cochion Caerdydd ac oes yn dilyn cochion Cymru, falle fod coctel o haul a tequila tanbaid ynghyd â jochied neu ddau o Brahma a Caipirinha wedi drysu pawb a phopeth yn yr Arena de Castelao.

Oriel luniau Dylan Llewelyn yng Nghwpan y Byd
Er iddyn nhw reoli'r hanner cynta ac yna mynd ar y blaen drwy glincar dis Santos, roedd y sgrifen ar y mur i'r Mecsicanwyr cyn yr anthemau. Patrwm syml ond anorfod gemau rhyngwladol yw fy mod i yn cefnogi'r tîm sy'n colli. Mae honna 'n reol sydd â mwy o sail iddi nac unrhyw beth all Pythagoras neu Isosgeles daflu i'r pair.
Ers gwaetha'r tymheredd gwallgof, roedd na filoedd o Fecsicanwyr wedi heidio i Fortaleza mewn pob math o wisg ffansi. Ychwanegwch griw o Iseldirwyr mwy oren na nos Sadwrn arferol yng Nghaernarfon, a miloedd o Frasiliaid yn eu melyn llachar, ac roedd yr Arena yn edrych fel powlen o fruit salad egsotig.
Ac eithrio criw o Wlad yr Iâ oedd mewn peryg o doddi yng ngwres canol dydd y trofannau ar un ochr, a theulu estynedig o Zurich o'n blaenau, roedden ni yng nghanol Mecsicanwyr gan gynnwys tri brawd oedd yn edrych yn rhyfeddol o debyg i'r Bee Gees ifanc.

Oriel luniau Dylan Llewelyn yng Nghwpan y Byd
Rhywsut neu'i gilydd llwyddodd y tri ohonom i ynganu tair fersiwn gwahanol iawn o anthem fywiog Mecsico yn ei chyfanrwydd. Mae cwrw canol dydd a haul yn dda i lenwi bylchau ieithyddol. Falle fod o'n rwtsh llwyr o ran geirfa ond roedd y stumiau a'r angerdd yn berffaith.
Gan nad yw Cymru yma, mae hi'n braf cael gwylio gêm heb fuddsoddi gormod o egni seicolegol mewn gwir gefnogi unrhyw dîm. Roeddwn yn gweiddi'n groch dros Fecsico wrth reswm ond pan sgoriodd Sneijder gôl hwyr roedd yr hombres hunanol o Gymru yn ysu am amser ychwanegol a hyd yn oed ciciau o'r smotyn. Ond diolch i droed ddiog Marquez ac anallu Arjen Robben i aros ar ei draed, chawson ni mo'r fraint o weld cefnogwyr dwy wlad arall yn wynebu artaith o ddeuddeg llathen.
Wrth adael stadiwm llawn Mecsicanwyr dagreuol, rhywsut neu'i gilydd fe lwyddon ni i gyrraedd ardal y pwysigion corfforaethol. Roedd rhaid cael band fel petae chi mewn gwesty all-inclusive i gyrraedd y lletygarwch go iawn, ond ar ôl hongian o gwmpas am oesoedd fel tair merch ifanc tu allan i westy One Direction, dyma ddal llygaid un o'r swyddogion mewn siwtiau. O fewn dim roedd o wedi bod a phlatiad o gnau i'r mwncïod powld cyn casglu platiad o frechdanau prôns - bwyd swyddogol y pêl-droed corfforaethol da ni wastad yn ei gasau. Rhagrith 1 Egwyddorion 0.
Mae yna fanteision ac anfanteision o ddilyn ein math ni o daith Cwpan y Byd. Yr anfanteision pennaf yw mai prin yw'r amser mewn unrhyw ddinas a dyw rhywun byth yn bell o orfod neidio mewn tacsi am aeropuerto arall. Dreulion ni lai na 48 awr yn Fortaleza cyn gadael am dridiau yn Salvador.

Oriel luniau Dylan Llewelyn yng Nghwpan y Byd
Ond heb os, mae yna fanteision sydd wedi cyfoethogi'n profiadau tu hwnt i unrhyw un o'm disgwyliadau. Yn hytrach nac aros yn ein hunfan a diogi, rydym wedi cwrdd â chymaint o bobl o wahanol wledydd mewn cymaint o ddinasoedd amrywiol, sydd wedi cynnig profiadau gwahanol iawn fel atodiad i'r pêl-droed ei hun.
Ia, cystadleuaeth bêl-droed ydi Cwpan y Byd, ond be sydd yn gwbl glir ar ôl tair wythnos yma, yw mai'r bobl, boed yn deithwyr neu drigolion lleol, sydd yn ei wneud o'n brofiad gwerth pob peso, real, ewro, doler, punt a phwl o hiraeth i gael bod yma.
Dechreuodd y daith drwy drafod tactegau mewn bar yn Buenos Aires gyda gwr o Iran oedd yn byw yn Plymouth. Tra'n disgwyl am ein ffleit ddiweddara o Fortaleza i Salvador roedd hi'n gyfle i ddechrau sgwrsio gyda dau gefnogwr pêl-droed o Israel. Ac ar ôl cyrraedd Salvador dyma dreulio noson yn awyr agored cynnes yn trafod gweledigaeth pêl-droed Gwlad Belg gyda Llywydd eu Cymdeithas Bêl-droed a'u Cyfarwyddwr Busnes.
Falle fydd y CIA, MI5, Mossad ac Al Qaeda yn dangos cryn ddiddordeb yn rhestr ffrindiau Facebook newydd Gwilym, a dwi'n argyhoeddedig fod na wersi Belgaidd sylweddol i'w dysgu am weinyddiaeth y gêm, ond yn fwy na dim, falle fod yna chydig o wirionedd, am unwaith, yng ngeiriau Sepp Blatter pan mae o'n cyfeirio at "y teulu pêl-droed".

Oriel luniau Dylan Llewelyn yng Nghwpan y Byd
