Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 13/10/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Dewi Llwyd - Hanner Marathon Caerdydd

pencampwriaeth y byd - world championship

torfeydd - crowds

ymwybodol - aware

croesi'r ffin - crossing the border

ruthro - rushing

awyrgylch - atmosphere

diodde(f) - suffering

hwb - a boost

trefnwyr - organisers

carfan gref - a strong representation

...mi fuodd miloedd ar filoedd o bobl yn rhedeg o amgylch strydoedd Caerdydd yn hanner marathon y brifddinas ddydd Sul diwetha. Y flwyddyn nesa bydd pencampwriaeth hanner marathon y byd yn dod i Gaerdydd, felly roedd ras eleni'n bwysig am sawl rheswm. Un o‘r rhai oedd yn rhedeg oedd Angharad Mair, sydd yn un o gyflwynwyr y rhaglen 'Heno' ar S4C. Dyma hi'n siarad efo Iwan Griffith ar ôl gorffen y ras mewn ychydig dros awr ac ugain munud...

Straeon Bob Lliw - Elvis

dywared - to impersonate

caplan - chaplain

cartrefi henoed - homes for the elderly

iechyd meddwl - mental health

elusennau - charities

tynnu nghoes - pulling my leg

crefyddol - religious

yn fyw - live

yn frenin yma ar y ddaear - a king here on earth

cerddoriaeth - music

Angharad Mair yn fan'na yn siarad am hanner marathon Caerdydd efo Iwan Griffith, ar raglen Dewi Llwyd. Un arall y byddwch chi'n ei weld yn aml ar S4C ydy Chris Jones, un o bobl tywydd y sianel. Mae Chris yn ffan mawr o Elvis Presley ac mae o’n mynd bob blwyddyn i ŵyl fawr Elvis ym Mhorthcawl, lle mae cannoedd o bobl yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth dynwared Elvis. Eleni mae Chris yn un o’r dynwaredwyr! Un arall sydd yn dynwared Elvis yn ei amser sbâr ydy Wyn Roberts, Caplan Ysbyty Gwynedd, ac roedd Chris eisiau gofyn iddo fo am ychydig o help...

Bore Cothi - Clwb 100

Hir Oes - longevity

ffaelu - weakening

iechyd - health

ambell i annwyd - the odd cold

mas - allan

wedi ei halltu - salted

crochan - pot

cymysgu fe lan - mixing it up

tato - tatws

llaeth enwyn - buttermilk

.. brenin tywydd S4C, Chris Jones, yn fan'na yn siarad efo ffans y brenin arall - Elvis Presley. A hir oes i ffans Elvis ynde? Mae hi'n dymor Hir Oes Cymru ar hyn o bryd ar BBC Cymru ac mae rhaglen Bore Cothi wedi sefydlu Clwb Cant, sef clwb i bobl sy'n gant oed, neu'n fwy wrth gwrs! Dydd Mawrth diwetha cafodd Trystan ab Ifan sgwrs gyda Mary Keir sydd yn gant a thair oed ac sy'n byw nawr yn Llandeilo, ond sy'n dod yn wreiddiol o Dŷ Ddewi. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Rhaglen Dylan Jones - Beca

haeddu - to deserve

cystadleuydd - competitor

ambell i her - the odd challenge

yn ddigon hawdd - easy enough

toes mwy moethus - a more luxurious dough

safon y pobi - the standard of the baking

addurno - to decorate

uchelgeisiol - ambitious

sgiliau sylfaenol - basic skills

cynhwysion - ingredients

Doedd yna ddim llawer o sôn am laeth enwyn a thato yn y Great British Bake Off, ond mi roedd yna gacennau arbennig iawn i'w gweld ar y rhaglen dros yr wythnosau diwetha. Os dach chi wedi bod yn gwylio'r rhaglen mi fyddwch chi'n gwybod yn iawn mai Nadiya enillodd y gystadleuaeth eleni. Ddwy flynedd yn ôl mi wnaeth y Gymraes Beca Lyne Perkis gyrraedd y ffeinal ac mae hi erbyn hyn yn cyflwyno rhaglen ‘Becws’ ar S4C. Be oedd hi'n feddwl o Nadiya tybed? Dyma be oedd ganddi i'w ddweud wrth Dylan Jones...

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cymru yn cyrraedd Ewro 16

Nesaf

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 20/10/2015