Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Carl ac Alun - Pêl-droed Cymru
y rowndiau terfynol - the finals
y tri gŵr doeth - the three wise men
crynhoi'r ymgyrch - to summarise the campaign
canlyniad - result
ymroddiad - commitment
ysbryd - spirit
hwb - a boost
byth bythoedd - never ever
cyfrwys - cunning
brathu - to bite
...wel chwaraeon wrth gwrs, gan ei bod wedi bod yn wythnos bwysig iawn i dimoedd Rygbi a phêl-droed Cymru.Siom oedd hi nos Sadwrn ynde efo Cymru yn mynd allan o Gwpan Rygbi'r Byd, ond dathlu oedd yna yng Nhaerdydd nos Fawrth wrth i dîm pêl-droed Cymru fynd drwyddo i rowndiau terfynol Euro 2016 am y tro cyntaf erioed. Aeth Carl ac Alun draw i stadiwm pêl-droed Dinas Caerdydd i siarad efo rhai o'r ffans...
Caryl - Cyri
y cyfuniad unigryw - the unique combination
perlysiau - herbs
synhwyrus - sensual
oglau - smell
defod - ritual
mwg - smoke
anghytuno - to disagree
amrywiaeth - variety
dipyn o gamp - quite an achievement
y mwyafrif ohonon ni - most of us
Carl ac Alun yn siarad efo rai o ffans pêl-droed Cymru yn fan'na - ac un ffan enwog iawn hefyd ynde? Wedi meddwl, mi fasai'n syniad da mynd i weld cyngerdd Bryn Tefel yn Ffrainc fis Mehefin nesa basai? I mi, does yna ddim gwell ffordd o ddathlu na chael cyri bach blasus. Dach chi'n gweld, dw i'n caru cyri, ac nid fi ydy'r unig un chwaith, fel clywon ni ar raglen Caryl ddydd Iau. Treuliodd hi'r rhaglen gyfan yn sôn am gyris efo rhai o ffans eraill y bwyd sef Berwyn Rowlands, Dorian Morgan a Nerys Howell. Pam bod nhw mor hoff o gyri felly? Dyma i chi flas (sori) ar y sgwrs...
Straeon Bob Lliw - Elvis
codi awch bwyd - to feel hungry
dynwared - impersonate
cyngor - advice
beirniad - judge
tynnu rheina bant - taking those off
cynadleddau - conferences
darlledu'n fyw - to broadcast live
llinell - a line
gwireddu breuddwyd - to fulfil a dream
elwn i - baswn i'n mynd
Wel mae hynna wedi codi awch bwyd arna i! Dan ni wedi cael ffans pêl-droed a ffans cyri ac rwan dan ni'n mynd i glywed gan un o ffans mwya Elvis Presley. Dach chi'n cofio'r wythnos diwetha pan glywon ni gan Chris Jones, un o bobl tywydd S4C, am yr ŵyl fawr ym Mhorthcawl lle mae llawer o bobl yn dynwared Elvis. Mi gaeth Chris gyngor yr wythnos ddiwethaf ar sut i ddynwared y brenin. Sut oedd o'n teimlo cyn mynd ar y llwyfan tybed?....
Stiwdio - Karen Owen a Jackie Collins
hanesion - histories
digwyddiadau go iawn - real events
tlodi - poverty
adloniant - entertainment
maes ei hymchwil - her field of research
cynulleidfa darged - target audience
aeliau - eyebrows
ffug enwau - false names
ergydion - blows
creadigaethau dichwaeth - tastless creations
Ac mae Chris wedi gadael yr adeilad! Da oedd o ynde? Seren go iawn! Ac arhoswn ni ym myd y sêr gyda'r newyddion trist am farwolaeth yr awdures Jackie Collins yn saithdeg saith oed. Ysgrifennodd hi drideg dau o nofelau gan werthu pum can miliwn o gopïau, yn cynnwys The Bitch, The Stud, Hollywood Wives a The World is Full of Married Men. Dyma oedd gan Karen Owen i’w ddweud amdani ar raglen Stiwdio ddydd Mawrth...
