Ynyr Williams yw cynhyrchydd y gyfres Pobol y Cwm, sydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 eleni. Yma mae’n trafod cynhyrchiad drama radio y mae ef a chast y rhaglen wedi bod yn ymwneud ag ef - un sydd hefyd yn nodi carreg filltir bwysig arall i Gymru, sef canmlwyddiant geni Dylan Thomas.
Mi o’n i’n sgwrsio hefo Inga Burrows, artist preswyl Pobol y Cwm, un diwrnod ym mis Chwefror, a dyma hi’n digwydd sôn pa mor wych fyddai hi petai ein cast, yn ystod canmlwyddiant Dylan Thomas, yn perfformio’r lleisiau yn fersiwn Gymraeg Under Milk Wood. Wow, meddyliais i, roedd hynny’n gwneud cymaint o synnwyr, gan mai UMW mae’n debyg oedd yr opera sebon gyntaf a ’sgrifennwyd erioed! Mae hefyd yn flwyddyn dathlu pen-blwydd Pobol y Cwm yn 40 oed ac fe yrrodd y syniad fi ar daith emosiynol - yn bersonol ac yn broffesiynol.
Ro’n i’n gwybod bod Radio Cymru wedi comisiynu drama am Dylan yn Fern Hill i'w darlledu yn yr Hydref, ond doeddwn i ddim yn siŵr beth arall oedd BBC Cymru am ei wneud yn Gymraeg. Ro’n i hefyd yn gwybod bod addasiad newydd Cymraeg T James Jones o UMW yn un ffantastig - ac yn un oedd angen ei roi ar gôf a chadw ar gyfer y dyfodol; ro’n i hefyd eisiau cyhoeddusrwydd ar gyfer ein dathliadau pen-blwydd yn 40 ac ar gyfer y talentau gwych sydd gennym ni yn Pobol y Cwm.
Arhoswch hefo fi am eiliad wrth i mi bori yn ôl drwy flynyddoedd o gyd-ddigwyddiadau ac adleisiau...
Perfformiwyd Under Milk Wood (UMW) am y tro cyntaf yn Nhalacharn yn y 1950au hwyr. Roedd 'Llais 1' a 'Llais 2' yn y cynhyrchiad hwnnw yn cael eu perfformio gan neb llai na T James Jones (Jim) - ie, yr un a aeth ati’n ddiweddarach i addasu UMW i'r Gymraeg dan y teitl 'Dan Y Wenallt' (DYW), a gyhoeddwyd yn y 1960au. Mi es i Goleg y Drindod, Caerfyrddin yn 1977, a pwy oedd yno fel darlithydd drama ond T James Jones ei hun - ac un diwrnod fe gynigiodd i mi rannau’r 'Llais 1' a 'Llais 2' yn ein cynhyrchiad coleg. Mae Jim hefyd yn rhoi i’r clod i mi am gyfieithu llinell gyntaf y ddrama, "A dechrau yn y dechrau’n deg...", neu yn hytrach am addasu ei gyfieithiad - dw i’n falch iawn o hynny.
Gwibiwn ymlaen rwan i fis Mawrth 2014 - ac rydw i'n dal i feddwl sut gallwn ni gael y cynhyrchiad at ei gilydd. Fedrwn ni ddim gwneud fersiwn teledu gan bod S4C eisoes wedi comisiynu Rhys Ifans a Kevin Allen, felly mae'n rhaid i mi ddod o hyd i ryw ffordd arall. Yna dwi’n cynnig y syniad i Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru. Mae'n mynd ychydig fel hyn...
"Mae DYW yn opera sebon. Mae Pobol y Cwm yn opera sebon. Pam na fedrwn ni gael y cymeriadau clasurol hynny sydd yn Pobol i chwarae yr un fath o rai yn DYW a wedyn ei ddarlledu ar Radio Cymru!?" Mae hi'n hoffi’r syniad ac yn gofyn i mi i siarad hefo Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru. Mae hi'n ei hoffi hefyd! Rydw i hefyd yn gweld Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, ac yn crybwyll y syniad wrtho fo. Roedd o wrth ei fodd! Felly dyna ni! Ond rhywsut roeddwn i eisiau cynnwys fy hen fentor o'r coleg a’r arch-addaswr, T. James Jones, a hynny heb gynhyrfu neb. Wedi'r cyfan, nid yw yntau’n aelod o gast Pobol.

Ffion Emlyn, Dylan Hughes, Betsan Powys, T James Jones, Ynyr Williams
Yna, un diwrnod, daeth rhyw fath o ddatblygiad allweddol. Mi fu Jim yn brif olygydd sgriptiau Pobol y Cwm rhwng diwedd yr wythdegau a chanol y nawdegau ac roeddwn yn sicr bod hynny’n reswm digon da i’w gael yn rhan o’r cynhyrchiad. Gwelais i Victoria Plucknett, aelod o gast Pobol, yr un diwrnod - mi fu ei mam yn yr un cynyrchiadau â Jim yn Gymraeg a Saesneg. Gofynnais i Victoria beth oedd ei barn hi am wahodd Jim. Roedd yn hapus iawn gyda’r syniad ac yn cytuno ei fod yn gwneud synnwyr perffaith. Rhoddais alwad i Jim, fe dderbyniodd yntau ac felly roedd gennym ni olau gwyrdd.
Yna, gwahoddais Ffion Emlyn, cynhyrchydd dramâu radio yn BBC Bangor, i'w gynhyrchu a chafodd y 115 munud cyfan ei recordio yn ystod un penwythnos. Bydd yn cael ei ddarlledu ar fore canmlwyddiant geni Dylan - Hydref 27ain am 10 y bore ar Radio Cymru.

Arwyn Davies wrthi'n recordio Dan Y Wenallt
Daeth Arwyn Davies, sy'n chwarae rhan y dihiryn hoffus Mark Jones yn Pobol y Cwm, ata i un diwrnod a gofyn a fyddai modd iddo wneud y gerddoriaeth ar gyfer DYW ac fe neidiais i ar y cyfle hwnnw. Mae Arwyn yn gerddor talentog iawn ac yn fab i Ryan Davies a chwaraeodd 'Voice 2' yn fersiwn ffilm Andrew Sinclair o UMW yn y 1970au cynnar, ochr yn ochr â neb llai na Richard Burton!
Dwi’n hapus iawn hefo'r canlyniad. Dwi’n falch bod BBC Cymru a Radio Cymru wedi cefnogi’r prosiect, yn falch ein bod yn cymryd rhan yn mhen-blwydd Pobol yn 40 oed a Dylan yn 100, dwi’n falch bod T James Jones wedi cael cyfle i roi perfformiad gwych i ni gyda chefnogaeth wych gan gast Pobol y Cwm, a dwi’n falch ein bod wedi gallu dod â’r cyfan at ei gilydd er mwyn i’n gwylwyr a’n gwrandawyr ei fwynhau.

T James Jones a Ffion Emlyn
