Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Hydref 21, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dylan Jones - Ralio

cyflwyno - to present

tad-cu - taid

fel yr andros (idiom) - very quickly

rhyw wefr ryfeddol - an amazing thrill

ddim yn swyddogol - not officially

trwydded yrru - driving license

sdim clem - no idea

cynhyrchu - to produce

rhaglen ddogfen - documentary

y gyfres - the series

...efo ceir Rasio. Ond ddim Formula 1. Na, rhywbeth llawer mwy diddorol - ralio ceir. Os dach chi wedi bod yn gwylio'r rhaglen Ralio ar S4C mi fyddwch chi'n nabod llais Emyr Penlan. Fo sy'n cyflwyno'r rhaglen ac mi gafodd Dylan Jones sgwrs efo fo ddydd Mawrth gan ofyn iddo i ddechrau sut dechreuodd ei ddiddordeb o mewn ralio...

Caryl Parry jones - Caneuon ffilmiau Disney

safon - quality

dallt - deall

treiddio mewn - penetrating into

ymwybyddiaeth - consciousness

roedd 'nhad wrth ei fodd - my father really liked

pleidlais - a vote

asio'n dda - blending well

llew - lion

i ryw raddau - to some degree

plethu mewn - blending in

Emyr Penlan yn fan'na yn sgwrsio am ralio ceir efo Dylan Jones, ac mae degfed cyfres Ralio newydd ail-ddechrau ar S4C- bob nos Fawrth am hanner awr wedi deg. Oes ganddoch chi hoff gân o un o ffilmiau Disney. Dw i'n siwr bod gan bawb un yndoes? A wyddoch chi be? Rwan mod i wedi sôn amdani, fyddwch chi ddim yn medru ei chael hi allan o'ch pen! Ddydd Iau ar raglen Caryl Parry Jones mi gaethon ni wybod be ydy hoff ganeuon Disney Caryl a Mathew Glyn. Dyma'r ddau yn sgwrsio am y caneuon hynny...

Cofio - Pobol y Cwm

ro'n i'n cael fy nghyhuddo - i was being accused

ffrae fawr - a big row

ildio - to give in

ar bwys - ger

achubwyd fy nghroen i - my skin was saved

trafodaethau di-ri - unending discussions

dyletswydd cynta - primary duties

tafodieithoedd gogleddol - northern dialects

cyfuniad - combination

cymwynas - a favour

Wel un rhaglen sydd bron cyn hyned â ffilmiau Disney ydy Pobol Y Cwm, yr opera sebon am bentre Cwmderi. Mi roedd y gyfres yn dathlu ei phenblwydd yn bedwardeg oed yr wythnos diwetha. Mi gafodd John Hardy sgwrs efo T. James Jones nos Fercher am yr amser pan oedd o'n un o sgriptwyr y rhaglen. Oedd hi wedi bod yn anodd gwneud yn siwr bod iaith Pobol y Cwm yn ddigon tebyg i iaith naturiol pobl Cwm Gwendraeth? Wedi'r cwbl, dyna'r ardal y mae Cwmderi i fod ynddi. Dyma be oedd gan T. James Jones i'w ddweud...



Dylan Jones - Meinir Gwilym

cyfansoddi - to compose

greddfol - instinctively

yr awen - the muse

ysbrydoli - to inspire

gaeth hi ei chreu - it was created

dychmygu - to imagine

y diwylliant Cymreig - the Welsh culture

gwerthfawrogi - to appreciate

rhan annatod - an essential part

dehongli - to interpret

T. James Jones yn fan'na yn siarad am rai o broblemau sgriptio pobol y Cwm a hithau'n bedair deg o flynyddoedd ers i'r gyfres ddechrau. Hon ydy'r opera sebon hyna ar y BBC - dipyn o gamp ynde? Symudwn ni rwan o gymoedd y de yr holl ffordd i Ynys Môn i wrando ar y gantores Meinir Gwilym yn sôn wrth Dylan Jones am albwm mae hi wedi ei rhyddhau yn America. Ac i gloi y podlediad yma yn y ffordd ora bosib mi gewch chi glywed ychydig o ganu hyfryd Meinir...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cast Pobol y Cwm i berfformio 'Dan y Wenallt'

Nesaf

Dan Y Wenallt - Blog Ynyr Williams