Main content

Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr: 23 Hydref 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf.

Senghenydd - Bill Jones

pwll glo - coal mine

tîm achub - rescue team

ergyd fawr danddaear - huge underground blast

erchyll - terrible

grym y ffrwydiad - the power of the explosion

y gawell - the cage

hynod o ddewr - remarkably brave

difrod - damage

cyflafan ofnadwy - terrible massacre

nwy gwenwynig - poisonous gas

"...cofio'r ddamwain ofnadwy fuodd ym mhwll glo Senghenydd ger Caerffili gan mlynedd yn ôl. Bu farw pedwar cant pedwar deg o lowyr yn y ddamwain, ac yr wythnos diwetha cynhaliwyd seremoni arbennig i gofio'r rhai fuodd farw. Mi gafodd Alun Thomas sgwrs efo'r hanesydd yr Athro Bill Jones am hanes y ddamwain.Yn y clip yma yn ogystal mi gawn ni glywed gan Margaret Jones am hanes ei thad-cu, neu ei thaid, oedd yn gapten ar dîm achub y pwll..."

Taro'r Post - Yncl Jac 

oes go lew - a good innings

y drychineb - the tragedy

llawenydd - happiness

y danchwa - the explosion

amryw o'r gogledd - many from the north

rhyfel byd cynta - first world war

berfedd y bore - the early hours

wedi ei gladdu - buried

goresi - to survive

brwydro - to fight

"Bil Jones a Margaret Jones yn fan'na yn dod a digwyddiadau ofnadwy'r diwrnod hwnnw ym mis Hydref Mil Naw Un Tri yn fyw mewn ffordd ddramatig iawn. Ac mi arhoswn ni efo Senghenydd am yr ail glip, a stori anhygoel Yncl Jac, sef ewythr i Elwyn Davies o Ddinbych fuodd yn gweithio yn Senghennydd adeg y ddamwain ond newidiodd ei shifft y noson honno. Drwy lwc felly doedd o ddim yn y pwll pan ddigwyddodd y ffrwydriad. Ond nid dyna ddiwedd ar lwc Yncl Jac fel yr oedd Elwyn yn esbonio ar Taro'r Post... "

Cofio - Dewi Pws



cerdd - poem

menyw - dynes

lan - fyny

unig - lonely

sboner - cariad

yn raddol - gradually

chwys yn tasgu - sweat pouring

gweiddi'n groch - shouting her head off

bant - i ffwrdd

noeth - naked

"Diddorol ynde bod Yncl Jac na thad-cu Margaret Jones, yr un o'r ddau ohonyn nhw, yn hapus i siarad am be ddigwyddodd yn Senghennydd. Dipyn o foi oedd Yncl Jac cofiwch. Jest y math o ddyn fasai'n apelio at Iola McNeli. A phwy ydy hi, tybed? Dyma Dewi Pws yn ei ffordd fach ei hun yn dweud ei hanes hi ar ffurf cerdd ar Cofio wythnos diwetha..."

Rhaglen Nia - Bethan Bennett

emynau - hymns

ffurfiol - formal

arwain y gân - conducting the singing

cymdeithasau di-ri - all kinds of societies

pallu - methu

cyfieithu - to translate



"Mi fasai'n syniad i Iola McNeli symud i Lundain falle. Dyna lle wnaeth Bethan Bennett o Dregaron gwrdd â'i gwr Gethin. Ond nid drwy rhyw asiantaeth dêtio y gwnaeth hi ei gyfarfod cofiwch, ond drwy ganu emynau ar Hyde Park Corner yn Llundain yn ystod y pumdegau. Buodd Bethan yn siarad efo Nia Roberts yr wythnos diwetha a dyma i chi flas ar y sgwrs ..."

Rhaglen Nia - Madog

llwyth brodorol - indigenous tribe

nodweddion - features

rhwyfau - oars/paddles

gwrthwyneb - opposite

disgynyddion - descendants

penaethiaid - chiefs

crwyn ych - ox skins

adrodd - to recite

cefn tost - bad back

cachgwns - cowards

"Doedd dim angen cyfieithydd ar Denzil Davies o Genarth pan gwrddodd o â un o lwyth y Mandan, llwyth brodorol o Ogledd America. Pam hynny? Wel mi roedd o'n medru'r Gymraeg - wel dau air beth bynnag! Yn ôl y stori roedd y llwyth hwn wedi dysgu Cymraeg oddi wrth Tywysog Madog, aeth drosodd i America ganrifoedd yn ôl. Sgwrsio am gwrwglau ar yr Afon Teifi oedd Denzil efo Hywel Gwynfryn ar raglen Nia, ond mae yna gysylltiad rhwng y Mandan a'r cwrwgl, fel y cawn ni glywed... "

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dangos Y Cerdyn Coch i Hiliaeth

Nesaf

Agor WOMEX mewn steil