Main content

Dangos Y Cerdyn Coch i Hiliaeth

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Tra mae digwyddiadau yn ymwneud a thîm cenedlaethol Lloegr wedi dangos i ni nad ydi pethau mor glyd a chysurus o fewn eu carfan, er waethaf y gorfoledd a’r llawenydd am gyrraedd ffeinal Cwpan y Byd ym Mrasil, mae pythefnos pwysig newydd gychwyn o fewn Uwch Gynghrair Cymru.

Rhwng y 18fed a’r 31ain o Hydref bydd pythefnos o weithredu'r neges wrth hiliaeth o fewn pêl droed, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, yn cael ei gynnal o fewn Uwch Gynghrair Cymru - Corbett Sports. Amcan yr ymgyrch ydi tynnu sylw at geisio dileu unrhyw weithred annerbyniol o hiliaeth o fewn y gêm.

Mae’r clybiau a’r Uwch Gynghrair yn gefnogol i’r ymgyrch, ac yn ystod y cyfnod bydd chwaraewyr yn gwisgo crysau T penodol, ac yn hyrwyddo’r ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’.

Mae’r cyfnod yma o ymgyrchu yn annog holl gymunedau Cymru i ddathlu’r gwahanol ddiwylliannau yn ein gwlad, ac yn galw ar bawb i uno yn eu gwrthwynebiad o hiliaeth ar bob lefel.

Bydd chwaraewyr yn dangos eu cefnogaeth ymarferol i’r cynllun drwy:

• wisgo crysau t penodol

• ddangos cardiau coch yr ymgyrch cyn gemau

Uwch Gynghrair Cymru-Corbett Sports

• sicrhau cyhoeddiadau ar yr uchelseinyddion

cyn y gemau

• gyhoeddi erthyglau yn y rhaglenni swyddogol

• gyhoeddi erthyglau ar wefannau

• dadorchuddio hysbysfyrddau yn y meysydd

• gynlluniau penodol gyda chlybiau a chymunedau

lleol.

Ond nid rhywbeth i'w ddisgwyl gan eraill mo'r neges yma; nid rhywbeth sydd yn ofynnol ar y clybiau yn unig, na rhywbeth a ddylid ei ddisgwyl fel anrheg drwy law'r Gymdeithas Bel Droed Cymru mohono chwaith.

Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i barchu eraill, beth bynnag fo’u cefndir.

Mae neges gan swyddogion a datganiad i'r wasg gan yr Uwch Gynghrair yn ddigon clir, sef - “Os gwelwch chi, neu glywed unrhyw weithred hiliol mewn unrhyw gêm bêl-droed - Dywedwch wrth y clwb a’r heddlu”

Mwynhewch a sicrhewch fod pawb arall yn gallu mwynhau, y gemau a’r goliau.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr: 15 Hydref 2013

Nesaf

Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr: 23 Hydref 2013