Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 20 - 26ain o Chwefror 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Bore Cothi - Anglesey Blue

awdur - author

nofelau trosedd - crime novels

cymeriad - character

cymleth - complicated

cefndir - background

creu delwedd - creating an image

y math yna o olygfa - that kind of scenery

tymor gwahanol - a different season

gaeaf - winter

gwanwyn - spring

"...mae Dylan H Jones yn byw yn Oakland California ond yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol. Mae e'n awdur nofelau trosedd ac mae ei lyfr newydd 'Anglesey Blue' yn sôn am dditectif o'r enw DI Tudor Manx sydd wedi dod yn ôl i Ynys Môn i fyw ac i weithio, ar ôl 30 mlynedd gyda'r MET yn Llundain. Bore Llun mi gafodd Dylan sgwrs draws-Atlantig gyda Shan Cothi dros Skype am y nofel newydd..."



Stiwdio - Deg Llyfr

herio'r drefn - challenging the system

yr oleudigaeth - the enlightenment

eglwys babyddol - Catholic church

credoau - beliefs

offeiriaid - priests

cefnu ar - to turn your back on

cysur - a comfort

cludo - to transport

uniaethu - to empathise

dychmygu - imagining

"Dylan H Jones yn fan'na yn sôn am ei nofel newydd 'Anglesey Blue'. Oes 'da chi hoff nofel? Ydych chi'n meddwl bod yna lyfrau dylai pob un ohonon ni eu darllen? Pa lyfrau fase yn eich deg uchaf chi felly? Dyna fuodd Catrin Beard a'r awdur Tony Bianchi yn sôn amdano efo Nia Roberts ar rhaglen Stiwdio ddydd Sul. Dyma ddewis Tony Bianchi i ddechrau..."



Georgia Ruth - Bandiau Caerfyrddin

yn ddiweddar - recently

hyder tawel - quiet confidence

arddegau - teenage years

rhaid i mi gyfadde - I must confess

dwyn i fyny - brought up

tramor - overseas

ofnus - fearful

cerddorol - musical

"Awn ni o fyd y llyfrau nawr i fyd recordiau. Mae yna lawer iawn o fandiau Cymraeg wedi dod o ardal Caerfyrddin yn ddiweddar. Gofynnodd Georgia Ruth i Gruffydd Wyn Owen, sylfaenydd y label recordiau ‘Decidedly Records’, esbonio pam bod hyn wedi digwydd, a dyma flas i chi o'r sgwrs..."



Geraint Lloyd - Nain Cwcw

honni - to claim

wyres - female grandchild

gwahaniaethu - to differentiate

wedi dotio at - doted at

ces i fy medyddio - I was baptised

cofrodd - souvenir

ambell un - a few

wedi fy nghyfareddu - I was enchanted

arwyddion henaint - signs of old age

yn ddi-dor - without break

"Gruffydd Wyn Owen yn sôn am fandiau Cymraeg ardal Caerfyrddin gyda Georgia Ruth. Tasai rhywun yn eich galw yn 'cwcw' fasech chi ddim yn hapus iawn dw i'n siwr - peth cas i alw rhywun ynde? Ond mae Ffion Davies o Lanelwy yn hapus iawn i gael ei galw yn 'Nain Cwcw'. Sut gafodd hi'r enw tybed? Dyna oedd cwestiwn Geraint Lloyd iddi hi nos Fercher..."

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Golwr Wrth Gefn Sutton

Nesaf

Cwpan Y Byd 2026