Anffodus oedd yr helynt a gododd yn sgil chwant bwyta golwr wrth gefn Sutton United , Wayne Shaw, pan gafodd ei weld gan filiynau yn fyw ar y teledu yn brathu’n eiddgar i bastai wrth eistedd ar fainc yr eilyddion yn y gêm yng Nghwpan Lloegr yn erbyn Arsenal nos Lun diwethaf.
Nid yn unig oedd hyn yn weithred amhroffesiynol a dweud y lleiaf, rwyf o'r farn ei fod hefyd wedi ac anfri ar y gêm neu o leiaf ar ei dîm, wrth osod delwedd hollol anghywir o'i glwb a’i gwneud yn destun jôc yn hytrach na dathlu eu rhediad yn y gwpan.
Roedd cymaint wedi ei addo cyn y gêm gydag atgofion melys a hoffus am anterth awr fawr Sutton wrth guro Coventry City beth amser yn ôl, heb son am guro Wimbledon a Leeds y tymor yma yn y Gwpan, ac er waethaf disgyblaeth a threfn y tîm yn erbyn Arsenal, y golwr a’i bastai mae'n debyg y caiff ei gofio.
Ymddengys hefyd fod yna, yn ôl honiadau, gysylltiad thwng bwyta’r bastai a chwmni betio, digon, mae'n ymddangos, i wneud y Gymdeithas Bel Droed gynnal ymchwil i'r digwyddiad.

Ond, fe ddaeth a’r digwyddiad yma ac atgofion imi am olwr arall sy'n rhan o etifeddiaeth hanesyddol y gêm, un arall hefyd nid bychan ei gorff, a oedd yn enwog iawn ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif.
Golwr a chwaraeodd bron tri chant o gemau i Sheffied Untied oedd William Foulke (ond fel Fatty Foulke y cafodd ei adnabod, gan ei fod yn pwyso, yn ôl pob son, pedwar stôn ar hugain, ac yn chwe throedfedd a phedwar modfedd o daldra).
Roedd Foulke nid yn unig yn cadw gôl i Sheffield United, roedd hefyd yn chware criced i dîm Swydd Derby. Llwyddodd i ennill Cwpan Lloegr dwywaith ( 1899 a 1902) , a cholli yn y ffeinal ( 1901), a hefyd enillodd bencampwriaeth yr hen adran gyntaf unwaith (yn 1898).
Ymddengys hefyd yn ôl tystiolaeth llyfr Penguin (The Book of Clichés) mai cyfeiriadau at Foulke, yn 1894, a roddodd enedigaeth i'r siantio a glywir yn cael ei gyfeirio at rai chwaraewyr, helaeth eu cyrff dyweder, yn aml heddiw sef, “Who ate all the pies?”. Er waethaf ei faint, fe gafodd chwarae dros Loegr, a hynny yn Sheffield, erbyn Cymru gan ddod yn fuddugol o bedwar gôl i ddim, er waethaf gweld Billy Meredith yn nhîm Cymru.
Ond, tipyn o gymeriad oedd Foulke ac mae son iddo greu stŵr yn ffeinal Cwpan Lloegr yn 1902, a orffennodd un gôl yr un, wrth brotestio nad oedd gôl Southampton yn ddilys, cymaint felly nes iddo, yn ôl y stori, redeg allan o’r ystafell newid ar faes Crystal Palace, yn noeth lymun a dilyn y dyfarnwr a aeth i guddio mewn cwpwrdd cadw brwshys!
Enillodd Sheffield y gêm ail chwarae o ddau gôl i un, gyda Foulke yn achub y dydd nifer o weithiau gydag arbediadau medrus.
Cafodd ei werthu i Chelsea yn 1905, am £50, a’i wneud yn gapten ar y tîm, ond anwadal orwn oedd ei amynedd fel capten, ac mae son iddo gerdded oddi ar y cae os oedd yn teimlo nad oedd ei amddiffynwyr yn trio'n ddigon called!
Fodd bynnag, os roddodd Foulke enedigaeth siant sy'n parhau hyd heddiw, fe roddodd hefyd enedigaeth i arfer arall sy'n parhau hyd heddiw.
Er mwyn gwneud i'r gwrthwynebwyr ddeall pa mor fawr oedd y golwr a oedd yn eu hwynebu, fe benderfynodd Chelsea osod dau fachgen bach i sefyll ar y naill ochor i'r gôl, y tu ôl i Foulke ,gan roi'r iddynt o redeg ar ôl y bel wedi iddi groesi'r llinell derfyn. Dyma oedd ‘ball boys’ cyntaf y gêm!
Tipyn o hanes felly i William Foulke a gresyn na fyddai golwr wrth gefn Sutton United, Wayne Shaw, wedi cael gwell sylw na’r un a dynnodd arno’i hun a’i glwb wrth fwyta pastai’n amhriodol yn ystod gêm yn erbyn Arsenal.
Roedd ei dîm a’r clwb yn haeddu gwell.
