Main content

Tra Bo Dau

Nia Roberts - Cyflwynydd

Ar ôl haf prysur yn dilyn y digwyddiadau ledled Cymru dyma fi’n dychwelyd at hen ffrind - y sioe siarad -ar ffurf sgwrs dau westai sy’n rhannu rhywbeth yn gyffredin wedi ei recordio mewn lleoliad sy’n berthnasol i’r ddau ohonynt - Tra Bo Dau.

Dyma fformat newydd fydd yn cynnwys cyfraniadau gan ffrindiau / teulu sydd wedi bod yn rhan o stori’r ddau dan sylw, fydd yn gwthio’r sgyrsiau i ambell gyfeiriad annisgwyl o bryd i’w gilydd! 

Daw’r rhaglen gyntaf mewn cyfres o 6 o swyddfa’r Hen Adran Blant yng Nghrombil Canolfan Ddarlledu Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig yn Llandaf, Caerdydd a’r ddau sy’n gwmni yn dybl act ac yn arwyr i blant dan gant.

Un Bach ac un Mawr, un Bos ac un Twmffat Twpach na Thwp….Ia y ddeuawd roth fywyd i’r ddau glown chwedlonol, Wynfford Elis Owen a Mici Plwm.

Nia Roberts yn sgwrsio gyda Wynfford Elis Owen a Mici Plwm

A raslas bach a mawr am straeon sydd ganddynt - cawn glywed am blentyndod y ddau sydd wedi bod yn gymaint ran o lywio cwrs eu bywydau a natur eu perthynas , y troeon trwstan a’r cyfnod tywyll pan ddoth straen ar y berthynas a’r iachâd melys ddoth yn ei sgil.

Asgob mae’n stori a hanner!!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf