Main content

Ar Y Marc: Tymor Newydd Uwch Gynghrair Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Lansiwyd tymor newydd Uwch gynghrair Cymru yn swyddogol ddydd Iau diwethaf ym Mhrestatyn. Cynhaliwyd yr achlysur o fewn cyrraedd i fan cychwyn / gorffen llwybr Clawdd Offa yn y gogledd. Yno galwodd cyn gapten Cymru, Kevin Ratcliffe, ar bobl i gefnogi a rhoi cyfle i Uwch gynghrair Cymru, a’i gydnabod fel prif gynghrair ein gwlad.

Yn ogystal â Kevin Ratcliffe, roedd Steve Evans o glwb y Seintiau Newydd, a enillodd saith cap i Gymru ac sydd yn aelod o Oriel Anfarwolion Uwch gynghrair Cymru yno yn cydnabod dylanwad fframwaith y clybiau ar ddatblygu chwaraewyr ifanc.

Rhoddwyd cydnabyddiaeth i'r datblygiad yma drwy gyfeirio at a chwaraewyr sydd wedi trosglwyddo o'r uwch gynghrair i glybiau proffesiynol ynLloegr.

Symudodd Aaron Hassall o Airbus yn ddiweddar i glwb Caerlŷr tra’r aeth Christian Doidge o Gaerfyrddin i Deganham & Redbridge, a llynedd gwelwyd y blaenwr Rhys Hartley o GAP Gei Conna yn ymuno a Chaerdydd.

Y trydydd gwr gwadd oedd Huw Griffiths, cyn reolwr y Derwyddon Cefn, ond erbyn hyn yn reolwr ar glwb y Bala ac yn edrych ymlaen at ymdrechion y bonheddwyr mawr yn y tymor newydd.

Yn dilyn trafodaethau gyda’r timau penderfynwyd parhau gyda’r drefn i chwarae dwy gêm yr un dros y penwythnos agoriadol, sef Awst 22, 23 a 25, gan fod hyn wedi profi i fod yn llwyddiannus iawn y llynedd.

Bydd gemau cyntaf y tymor yn cael ei cynnal ar y nos Wener, pan fydd y Seintiau Newydd yn croesawu Bangor i Neuadd y Parc, mi fydd Prestatyn adref i Gei Conna a’r Derwyddon Cefn, a enillodd ddyrchafiad i'r uwch gynghrair yr haf yma, yn herio Aberystwyth ar Y Graig yng Nghefn Mawr.

Yn ôl yr arfer bydd rhaglen Ar y Marc yn rhoi sylw teilwng i ddatblygiad a'r storiâu sydd yn codi o’r Uwch gynghrair tra bydd S4C yn darlledu Sgorio yn fyw pob prynhawn Sul fel rhan o raglen chwaraeon newydd, sef Y Clwb.

Parha'r darllediadau byw ar brynhawn dydd Sul i fod yn ganolog i wasanaeth a fydd yn hybu’r Uwch gynghrair ond rwyf yn siomedig na fyddwn yn gallu gweld uchaf bwyntiau holl gemau'r penwythnos, sef y rhai eraill a fydd yn cael eu cynnal ar y Sul, ar nos Lun. Er hynny, mae yna sgôp i gemau'r Sul gael eu dangos ar y diwrnod, weithiau, ond bydd pob gem yn cael ei ffilmio gyda uchafbwyntiau o fewn rhaglen Clwb, a hefyd ar raglen Sgorio Stwnsh bnawn Mawrth ac ar gael hefyd ar wefan Sgorio.

Bydd rhaid aros i weld faint o wylwyr fydd yn dilyn y rhaglen yn fyw ar ei newydd wedd, ar brynhawn Sul pan mae yna gymaint o atyniadau eraill o fyd pêl droed yn cael eu cynnig ar yr un adeg.

Siomedig hefyd ydi sylweddoli na fydd uchaf bwyntiau o gemau tramor, megis Sbaen i gael ar Sgorio mwyach, a mwy felly o ystyried bod seren fwyaf Cymru, ac un o brif sêr y byd pêl droed, Gareth Bale, ddim i'w weld yn chware dros Real Madrid ar S4C mwyach.

Fe allai gofio'r adeg pan oedd Sgorio yn brif gyfrwng gweld pêl droed Ewropeaidd ar y teledu, ac mae gen i lawer o atgofion o chwaraewyr ardal Lerpwl, yn wylwyr ffyddlon o S4C a Sgorio er mwyn gweld y gemau.

Yn wir daeth rhai o'r Sgowsars a ddaeth i chwarae i glybiau megis y Rhyl, Caernarfon, Bangor a hefyd i Dreffynnon yn gyfarwydd iawn ac ymadroddion pêl droedaidd Cymraeg drwy wylio sgorio!

Mae gen i deimlad hefyd fod cael gwylio pêl droed o Sbaen ar Sgorio wedi bod yn dynfa i lawer, a drwy hyn fod y rhaglen hefyd wedi gallu rhoi sylw teilwng i Uwch gynghrair Cymru yn y broses. Ond dyna ni, does dim yn aros yn ei unfan, a does ond obeithio y bydd y drefn newydd yn parhau i gyfrannu cymaint â’r gorffennol tuag at hybu Uwch gynghrair Cymru ar hyd a lled y genedl unwaith eto.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Alex Yn Galw - Wel am wythnos brysur!

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Awst 19, 2014