Main content

Alex Yn Galw - Wel am wythnos brysur!

Alex Jones

Presenter

Shwt i chi gyd de? 

Wel am wythnos brysur! Tumble wedi dechrau, nôl ar y One Show ac wrth gwrs cyfres Alex yn Galw ar Radio Cymru!

Jackie Chan odd gwestai cynta’ ni nos Lun a mi od e’n lot o hwyl. Ware teg ma’ fe’n berson hyfryd, ac yn gwenu o hyd! Nia Parry Hong Kong!

Dydd Mercher roedd y One Show yn fyw o Gaeredin ar gyfer yr Wyl Fringe. Yn perfformio ar y rhaglen oedd aelodau o’r sioe ‘Haka’. Dwi di hen arfer a’r gweld y ddawns yma’n cael ei berfformio gan fod fy nghariad i, Charlie, yn dod o Seland Newydd ond, roedd y fersiwn mwy addfwyn yma yn wirioneddol wych!

Yn hwyrach es i weld sioe un dyn o’r enw “Adam of the Riches”, ble yr oedd Adam Riches yn malu awyr am awr gyfan yn gwisgo dim byd ond tywel gwyn o gwmpas ei ganol. Doniol iawn, iawn! Beth oedd hyd yn oed mwy doniol oedd bod y digrifwr John Bishop yn y gynulleidfa ac yr oedd pawb yn disgwyl iddo fe chwerthin gyntaf - pawb ishe sêl bendith John i chwerthin!

Dwi’n paratoi at ail raglen Tumble ar hyn o bryd. Mae gweld y sêr yma yn gwneud eu campau yn rhyfeddol. Sai’n gwybod shwt ma’ nhw’n neud e, ma’ nhw’n ddewrach na fi ac yn hynod o ffit!

Er wedi gweud hynny, dwi’n siŵr bod lefel fy ffitrwydd i wedi gwella ar ôl dringo dros gant o risiau i fflat Gwion Lewis, gwestai Alex yn Galw wythnos yma.

Gwion Lewis ac Alex Jones

Reit, well i fi fynd, angen ymarfer fy roli polis cyn nos Sadwrn!

Hwyl am y tro

Alex

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf