Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Awst 19eg - 26ain 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Post Cyntaf - Robin Grifith

teyrnged -

hanner can mlynedd - 50 years

gwas priodas - best man

tad bedydd - godfather

cymeriad unigryw - unique character

ffeind - kind

peniog - brainy

bachog ei ddweud - sharp tongued

yn fregus - fragile

dweud ei dweud - having his say

"...teyrnged yr actor John Ogwen i'w ffrind Robin Griffith fuodd farw yr wythnos diwetha yn saithdeg oed. Actor oedd Robin hefyd ac mae llawer iawn o bobl yn cofio ei lais fel y cymeriad Blodyn Tatws yn y gyfres blant Miri Mawr yn y saithdegau. Roedd o wedi actio mewn sawl ffilm a dramau teledu a theatr yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dyma John Ogwen yn ei gofio.... "



Rhaglen Aled Hughes - Carafanau

cyd-weithiwr - colleague

cyflwyno - to present

gwerthiant - the sale

cynyddu - increase

y cant - per cent

poblogaidd - popular

26 troedfedd o hyd - 26 feet in length

popty - stove

cymdogion da - good neighbours

chydig o ddillad - a few clothes

"John Ogwen yn fan'na yn cofio ei ffrind a chyd-weithiwr Robin Griffith fuodd farw yr wythnos diwetha. Gaynor Davies oedd yn cyflwyno rhaglen Aled Hughes ddydd Mawrth diwetha ac mi gafodd hi sgwrs ddifyr iawn efo Gareth Hammer o’r Bala sydd wrth ei fodd yn carafanio ym Mhorthmadog. Mae’n debyg bod gwerthiant carafanau wedi cynyddu undeg tri pwynt saith y cant ers ddechrau’r flwyddyn yma, sy'n dangos bod carafanio’n beth poblogaidd iawn i’w wneud. Pa fath o garafan sy gan Gareth tybed?"



Bore Cothi - Tatws

llawes - sleeve

ysgwydd - shoulder

garddwrn - wrist

os craffwch chi'n galed - if you look closely enough

arwyddocâd - significance

gweddïo - to pray

yr holl elfennau - all the elements

llwyfan - stage

crefyddol - religous

ysbrydol - spiritual

"Carafan posh iawn gan Gareth yn fan'na ynde? Rebeca Hayes oedd yn cyflwyno Bore Cothi ddydd Mawrth diwetha a tatws oedd un o themâu'r rhaglen. Mae'r tatw sydd ar fraich Rhydian Bowen Philips fel llawes yn mynd o'i ysgwydd i lawr at ei arddwrn. Oes yna unrhyw esboniad am rai o'r lluniau sydd yn rhan o'r tatw? Wel oes, meddai Rhydian... "



John Walter - Tai bwyta

cynnyrch - produce

nodweddion - features

yn gyffredin - in common

delwedd - image

trefniadau - arrangements

rhesymeg - logic

cyfyngu - to limit

mafon a mefus - rasberries and strawberries

tymhorol - seasonal

cregyn gleision - mussels

"Tatw Rhydian bron fel llyfr ynde, yn dweud hanes ei fywyd. Buodd John Walter yn sgwrsio am dai bwyta gyda thair merch sydd yn rhedeg eu tai bwyta eu hunain. Mae'r tair yn trio defnyddio cynnyrch lleol trwy'r adeg, ond ydy hynny'n hawdd bob tro? Dyma i chi flas ar y sgwrs..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol