Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: Hydref 15, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dan yr Wyneb - Rhoi aren

aren - kidney

llawdriniaeth - surgery

ddim yn ymwybodol - unaware

meddygon - doctors

anymarferoldeb - inpracticality

chwaer ieuenga - younger sister

unrhyw amheuon - any doubts

dewr - brave

fawr ddim o gyngor - hardly any advice

yn galonogol - heartening 

...Menna Medi yn sôn wrth Dylan Iorwerth am yr adeg pan oedd ei chwaer hi, Olwen, angen aren newydd, ar ôl iddi fod ar beiriant dialysis am dair blynedd. Roedd rhaid i'r aren ddod gan aelod o'r teulu ac fel y cawn ni glywed roedd teulu mawr gan Olwen. Menna gafodd ei dewis i gael y llawdriniaeth yn y diwedd a dyma hi'n dweud yr hanes wrth Dylan Iorwerth...



Cofio - Hen Reilffordd

gweinidiog yr Efengyl - Minister of religion

heddwch i'w lwch o - may he rest in peace

dengid - to escape

dyna i chi bry ynde (idiom) - there's a character for you

peirannau - machines

siwrne faith - lengthy journey

ffasiwn beth - such a thing

dylanwadol - influential

blaenor - deacon

cymanfa ganu - hymn singing festival

Menna Medi yn fan'na yn siarad efo Dylan Iorwerth ar Dan yr Wyneb nos Lun diwetha am roi un o'i harennau i'w chwaer. Os ydych chi dros ryw oedran arbennig mi fyddwch chi'n siwr o gofio y rheilffyrdd oedd i'w cael yng Nghymru cyn i'r Doctor Beeching eu cau nhw i gyd. Un o'r rheilffyrdd hynny oedd yr un rhwng y Bala a Blaenau Ffestiniog, er i fod yn deg â'r Dr Beeching mi gafodd hwn ei gau ym Mil Naw Pump wyth-cyn ei amser o! Mi gafodd John Hardy sgwrs efo John Roberts o Lanuwchllyn oedd yn arfer gweithio ar y rheilffordd...



C2 Ifan Evans - Bardd preswyl y mis

bardd preswyl - resident poet

her - a challenge

prifardd - chaired bard

cerddi mawl - odes

sail - foundation

mabwysiadu - to adopt

crwt - bachgen

tacl front - dirty tackle

weiran bigog - barbed wire

troellwr disgau - DJ

Llwyth o straeon difyr yn fan'na wrth i John Roberts gofio am yr hen reilffordd rhwng y Bala a Blaenau Ffestiniog. Os ewch i wefan Radio Cymru mi gewch chi glywed y sgwrs honna'n llawn gan gynnwys cerdd gafodd ei hysgrifennu i'r rheilfffordd. A sgwennu cerdd oedd yr her roddodd Ifan Evans i Fardd Preswyl C2 - Ceri Wyn Jones nos Fawrth diwetha. Dyma i chi gyfle i glywed y gerdd ac i ddysgu llawer iawn o ffeithiau am Ifan Evans!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Hydref 7, 2014

Nesaf

Byd Iolo: Ffair Adar Rutland Water