Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Hydref 7, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

C2: Y Teimlad - babanod

cysylltiad - connection

y gallu i gyfathrebu - the ability to communicate

yr ymenydd - the brain

y groth - the womb

sain - sound

datblygu'r clyw - developing the hearing

synnau gwahanol - different sounds

cyplysu'r geiriau efo ystyron - coupling sounds with meaning

tynhau ei chyhyrau - tightening her muscles

hwiangerddi - lullaby

...sgwrs am fabis. Ond ddim rhyw sgwrs fasech chi'n ei chlywed bod dydd cofiwch, ond rhan o gyfres Y Teimlad ar C2, lle mae Lisa Gwilym yn chwilio am y cysylltiad rhwng cerddoriaeth ac emosiwn. A'r wythnos diwetha cafodd Lisa gwmni'r Dr Mair Edwards, sydd yn seicolegydd clinigol, i sgwrsio am sut mae cerddoriaeth yn gallu helpu babanod i siarad ac i ddeall iaith.

Bore Cothi - Diwrnod yr Henoed

Diwrnod Pobl Hyn - Older People's Day

llaeth - llefrith

y cyfnod - the period

ces i fy medyddio - I was baptised

derbyn yn llawn aelod - received as a full member

cynulleidfa - congregation

yn wefreiddiol - electrifying

afiechyd - ill-health

edrych yn syn - to look in bewilderment

prifathrawes - headmistress

...a'r hwiangerdd hyfryd Gee Ceffyl Bach yn fanna i gloi sgwrs ddiddorol iawn rhwng Lisa Gwilym a'r Doctor Mair Edwards am iaith babis. Awn ni draw i ben arall y sbectrwm oedran rwan i wrando ar ran o sgwrs rhwng Heledd Cynwal a Mary Bott, sydd bron â chyrraedd ei nawdeg oed. Mi gafodd Mary ei geni a'i magu yn Llundain, ac er bod ganddi acen cocni wrth siarad Saesneg, acen de-orllewin Cymru sy ganddi wrth siarad Cymraeg. Sut mae hynny wedi digwydd tybed? Cewch chi'r ateb wrth wrando ar y clip nesa ma...

Dan Yr Wyneb - bywyd teuluol

bywyd teuluol - family life

yn dirywio - deteriorating

yn sylfaenol - essentially

mabwysiadu - adopting

uned gul a chyfyng - a narrow and limited unit

gweithwraig gymdeithasol - social worker (female)

ysgariadau - divorces

technoleg fodern - modern technology

cyfran fawr - a large proportion

hela amser - treulio amser

Dyna wych oedd gwrando ar Mary Bott yn fan'na yn cofio am ei phlentyndod yn Llundain, ac roedd hi'n sgwrs addas hefyd gan fod yr wythnos diwetha yn Wythnos y Bobl Hyn. Wel, dan wedi clywed gan Mary sydd bron yn nawdeg oed, ac wedi cael sgwrs am fabis ac mae hynny'n ffitio'n ddel efo'r clip nesa 'ma, sef sgwrs am fywyd teuluol. Mae hi'n Dymor y Teulu ar BBC Cymru ac mi fuodd Dylan Iorwerth yn gofyn i'r Dr Elin Jones a Delyth Lloyd Griffith, ai rhywbeth yn y gorffennol ydy bywyd teuluol?

Geraint Lloyd - Cystadleuaeth aredig

cystadleuaethau aredig - ploughing competitions

beirniad - adjudicator

pencampwr - champion

cynrychioli - to represent

syndod o dda - surprisingly well

cynhesu - twymo

swyddogaeth bwysicach - a more important function

braint - privilege

cwys - furrow

agoriad - opening

Dylan Iorwerth yn fan'na yn cael barn y Dr Elin Jones a Delyth Lloyd Griffith am fywyd teuluol yn yr oes fodern. Ac rwan am rywbeth hollol wahanol. Be dach chi'n ei wybod am gystadlaethau aredig? Dim llawer? Wel dyma'ch cyfle chi i ddysgu rhywbeth newydd felly. Mi fuodd Geraint Lloyd mewn cystadleuaeth aredig yn Sir Benfro dros y penwythnos, a chael gair efo’r beirniad a’r pencampwr Emrys Owen...

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Byd Iolo: Jon Gower

Nesaf

Byd Iolo: Rhiannon Bevan