Main content

Pigion i Ddysgwyr: 08 Hydref 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf.

Dei Tomos - Teulu Plas Garthewin

yr aer - the heir

ysbaddu - spay

teuluodd bonedd - landed gentry

genedigaeth fraint - birthright

tirion - gentle

angladd - funeral

cyfreithwyr - lawyers

beichiog - pregnant

meudwy - recluse

brithion - mottled

"... hanes un o hen deuluoedd mwy enwog Cymru - y teulu 'Wynn' o Blas Garthewin yn Sir Ddinbych. Hazel Walford Davies fuodd yn sôn am hanes y teulu efo Dei Tomos, ac mi gawn ni glywed clip bach o'r sgwrs mewn munud. Ond peidiwch â meddwl eich bod yn mynd i glywed rhyw hanesion diflas, llawn dyddiadau a ffeithiau sych. O na, mae na ddwy stori hynod o ddiddorol yma, ond well i unrhyw ddynion sensitif beidio â gwrando ar y stori gynta... "

Geraint Lloyd - Bad Achub Conwy

gwirfoddol - voluntary

Bad Achub - Lifeboat

trafferthion - difficulties

delfrydol - ideal

tafliad carreg - a stone's throw

awgrymu - to suggest

rhuthro - to rush

pwyllo - to take care

anarferol - unusual

hael - generous

"Ow, ow, ow am stori India. Teulu bach 'diddorol' a dweud y lleia ynde? Wel at stori dipyn callach rwan. Nos Lun mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Morgan Dafydd am ei waith gwirfoddol efo Bad Achub Conwy. Sgwrs gall ddwedes i? Wel mae laswio gwartheg yn llwyddo i ddod mewn i'r stori rywsut..."

Dafydd a Caryl - Only Men Aloud

ymarfer - rehearse

salwch - illness

clyweliadau - auditions

dwfn - deep

hwyluso - to facilitate

rhyngwladol - international

unigol - individual

cyflawni - to achieve

agwedd - attitude

yn llythrennol - literally

Wel dan ni wedi cael stori boenus o India, llygod rhyfedd, a stori am achub gwartheg. Dw i'n addo stori gall tro ma. Mae na newid mawr yn digwydd efo “Only Men Aloud” . Mae'n debyg mai dim ond wyth ohonyn nhw byddwn ni'n gweld ar lwyfan o hyn ymlaen. Daeth Tim Rhys-Evans a Wyn Davies o'r côr enwog i siarad efo ni ar raglen Dafydd a Caryl ddydd Llun i esbonio pam eu bod yn newid..

Rhaglen Nia - Ffair Nottingham

gwyddau - geese

hedfan - to fly

nwyddau - goods

yn ddiweddar - recently

naws - nature

dychmygu - to imagine

tarddiad - origins

gofidio - poeni

atyniad - attraction

y cwrdd - religious service

"Dw i'n meddwl bod Caryl o ddifri ynglyn â bod yn supersub i'r hogia! Ffansïo'r teithiau o gwmpas y byd, debyg. Reit ta, efo be dach i'n cysylltu tref Nottingham? Iawn Robin Hood, ia - Coedwig Sherwood, ond fasech chi'n cysylltu'r dref efo gwyddau o gwbl? Go brin, mae'n debyg. Ond mae ffair Wyddau Nottingham yn eitha enwog ac yn hen iawn. Mae'n mynd ers saith cant o flynyddoedd! Ddydd Mercher buodd Nia yn siarad am y ffair efo Gwynne Davies sy'n byw yn Nottingham. Mae Gwynne yn dod o Drefdraeth, Sir Benfro yn wreiddiol, ond yn byw yn y dref ers hanner cant o flynyddoedd, ac yn llawn o hanesion y dre."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf