Main content

Blog Ar y Marc: Swydd Ian Williams y Seintiau Newydd

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Tra mae un o glybiau mwyaf blaenllaw ein gwlad wedi ymddwyn a gweithredu mewn dull sy’n ymddangos yn hollol hurt ac annealladwy, mae datblygiadau llawer mwy ffafriol wedi digvwydd oddi ar y cae ym maes ieuenctid ein Uwch Gynghrair cenedlaethol.

Yr wythnos diwethaf cafodd yr aelod mwyaf newydd i bwyllgor Cymdeithas Bel Droed Cymru, Ian Williams sydd yn Brif Weithredwr clwb Y Seintiau Newydd, ei ddewis i fod yn aelod i Gymdeithas Clybiau Ewropeaidd gyda ffocws ar ddatblygu strategaethau ieuenctid.

Bydd ei aelodaeth yn parhau am ddwy flynedd hyd at 2015. Dywedodd Mr Williams y byddai'r profiad yma yn rhoi mewnwelediad iddo i esiamplau o ymarfer da ar draws y cyfandir, ac yn sgil hyn, ei alluogi i ehangu’r neges, a sicrhau bod timau a chwaraewyr ifanc Cymru yn elwa.

Mae gan y gymdeithas yma lais cryf mewn datblygiad a chynllunio bellach o fewn y gêm yn Ewrop, ac mae ganddynt fewnbwn ymgynghorol grwpiau penodol o fewn UEFA a hefyd FIFA.

Mae yna bum gwahanol grŵp o fewn Cymdeithas Clybiau Ewrop, yn canolbwyntio ar gystadlaethau, cyllid, cysylltiadau sefydliadol, marchnata a hefyd cyfathrebu a threfn a strwythur ieuenctid.

Tydi teithio ar hyd a lled y cyfandir yn sgil pel droed yn ddim byd newydd i rhywun sydd yn gysylltiedig a’r Seintiau Newydd. Bydd y profiad yma o gymryd rhan mewn gemau Ewropeaidd yn siŵr o fod yn gymorth i'w ddyletswydd newydd, felly dymunwn yn dda wrth longyfarch Ian Williams ar ei gyfrifoldebau newydd.

Da fydd gweld sut y gall effeithio yn gadarnhaol ar ddatblygiadau a safonau ein chwaraewyr ifanc ar hyd a lled Cymru i’r dyfodol. Da gweld hefyd nad yw'r Seintiau Newydd, na UEFA ‘chwaith yn meddwl fod paentio’r stadiwm na chwarae gemau cyfrifiadurol yn linyn mesur a fyddai’n arwain tuag at swydd hollbwysig o fewn y gêm!

Wedi dweud hynny, dwi wrthi’n brysur feddwl ysgrifennu llythyr buan at Siôn Corn a gofyn iddo ddanfon y gêm bel droed mwyaf diweddar y gallaf ei chwarae ar fy nghyfrifiadur mor fuan ag sydd bosibl.

Wedyn, fe fyddaf innau, ar ol gwastraffu amser yn dilyn cyrsiau hyfforddiant Cymdeithas Bel Droed Cymru yn gallu dod yn hollol gymwys i deithio'r byd yn chwilio am, ac argymell chwaraewyr a fyddai yn ddigon da i dimau Uwch Gynghrair Lloegr. Yn wir, mi wnâi dipyn o waith gwirfoddol, neu fynd ar brofiad gwaith, petae’n rhaid, er mwyn ymuno a'r detholedig rai.

Ar y llaw arall, dwi yn ystyried fy hun fel tipyn o arlunydd, ac ar un adeg wedi paentio ychydig ar eisteddle clwb Treffynnon rhai blynyddoedd yn ôl!

Tybed felly petawn yn dangos fwy o awch yn y byd chwaraeon cyfrifadurol, y gallaf finnau ryw ddydd yn fy henaint, gael fy nghyflogi fel prif sgowt i un o glybiau Uwch Gynghrair Lloegr! Cwrs cyfrifiadurol mewn dosbarth nos dros y gaeaf amdani felly.

Diolch byth am bobol fel Ian Williams sydd yn dangos safonau o fewn Uwch gynghrair Cymru y gellir eu hefelychu o fewn y wlad. Gyda’r Seintiau Newydd yn curo’r Rhyl o ddwy gol i ddim y Sadwrn diwethaf, ac yn dringo at frig yr Uwch Gynghrair unwaith eto, mae’r safonau uchel yn parhau yn Stadiwm Corbett Sports. Biti na fyddai'r doethion honedig ein prif ddinas yn gallu ymddwyn mewn dull tebyg o fewn eu Uwch Gynghrair hwythau!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: 08 Hydref 2013

Nesaf

Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr: 15 Hydref 2013