Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Geraint Lloyd - Stori o America
Efrog Newydd - New York
cymdeithasu - socialising
wedi gwirioni - was delighted
cwmni golygu - editing company
wedi mopio'n lan - over the moon
darganfod - to discover
cysylltiadau a gwreiddiau - contacts and roots
cefndir - background
ei chyffwrdd hi - to touch her
aelod - a member
"...sgwrs rhwng Geraint Lloyd a Sioned Wyn Morgan, sydd yn byw yn Efrog Newydd ers blwyddyn rwan. Bob mis mae hi'n cael sgwrs efo Geraint am ei bywyd yn y ddinas. Mae hi a'i gwr, Rhodri, yn rhedeg y Gymdeithas Gymreig yn Efrog Newydd. Roedd ganddi stori fach ddiddorol i ddweud wrth Geraint mis yma..."
Rhaglen Rhys Mwyn - Rhywbeth I'w Ddweud
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol - Department of International Politics
yn anorfod - inevitable
o reidrwydd - necessarily
hyblyg - flexible
amrywiaeth - variety
elfennau'n gyffredin - common features
atgofion ieuenctid - memories of youth
dadansoddi - to analyse
ychwanegu at y cyfoeth - add to the riches
deongliadau - interpretations
Dipyn bach o hanes Cymdeithas Gymreig Efrog Newydd yn fan'na ar raglen Geraint Lloyd. Nesa, dan ni'n mynd i glywed Rhys Mwyn yn trafod y llyfr "Rhywbeth I'w Ddweud - Deg o ganeuon gwleidyddol rhwng 1979 -2016" gyda'r Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth. Yn y llyfr mae nifer o enwogion Cymru yn dewis eu hoff gân wleidyddol ac yn esbonio pam eu bod yn ei hoffi. Os dach chi isio copi o'r llyfr - dim ond wyth bunt naw deg pump mae o'n ei gostio. Dyma Dr Elin yn sôn am sut oedd pobl wedi dewis eu hoff gân...
Bore Cothi - Pamela Davies
cantores - singer (female)
cystadleuaeth - competition
unawd - solo
hollol rugl - totally fluent
chi'mod - dach chi'n gwybod
yn anffodus - unfortunately
ddaru mi - wnes i
ail-ddechrau - to start again
awen - muse
ardderchog wir - really excellent
"'Yma o hyd'' gan Dafydd Iwan oedd y gân glywon ni ar ddiwedd y clip yna. Ar Bore Cothi dydd Mawrth mi glywon ni sgwrs efo Pamela Davies sydd yn dod o Gasnewydd yn wreiddiol, ond yn byw yn Acton, Wrecsam ers pan oedd hi'n blentyn. Mae Pamela yn gantores arbennig ac mi enillodd hi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1958 a 1970, yng nghystadleuaeth y Lady Herbert a'r unawd mezzo. Enillodd hi yn ogystal nifer o gystadlaethau i ddysgwyr gan gynnwys
Cadair y Dysgwyr yn Casnewydd yn 2004. Eleni mae hi'n cael ei derbyn i Orsedd y Beirdd. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."
Rhaglen Aled Hughes - Josh Harris
y llinell gorffen - the finishing line
Pencampwriaeth y Byd - World Championship
cynhyrchydd - producer
gwerthfawrogi - appreciate
cymaint o fraint - such a privilege
ymwybodol - aware
beth gyflawnodd Josh - what Josh achieved
sylwebu - commentating
prin iawn - very rare
o nunlle - from nowhere
"Llongyfarchiadau mawr ynde, i Pamela. Mi fydd yn ddiwrnod arbennig iawn iddi hi, dw i'n siwr. Roedd Marathon Llundain yn ddiwrnod arbennig i Josh Harris, bachgen o Gorslas, Sir Gaerfyrddin. Mi newidiodd bywyd Josh am byth pan orffennodd o Farathon Llundain mewn dwy awr un deg pedwar munud a phedwar deg naw eiliad. Dyma oedd yr amser cyflyma erioed i unrhyw berson o Brydain orffen y ras. Nos Iau, roedd ‘na raglen ar S4C yn edrych ar fywyd Josh a sut mae pethau wedi newid iddo fo ers y diwrnod hwnnw. Dyma fo'n sgwrsio am ddiwrnod y Marathon efo Aled Hughes ac Angharad Mair..."
