Main content

Rhagoriaeth yng Nghwpan Y Byd

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae gemau agoriadolCwpan y Byd 2014 wedi bod yn esiamplau nodedigo ragoriaeth pêl-droed. Does ond obeithio y bydd y duedd hon yn parhau.

a chawn weld mwy o symudiadau hyblyg,chwarae agored, ac agwedd ymosodol a deniadol a ddylai ddenu gwylwyr ar hyd a lled y byd i ddilyn y gêm.

Cafwyd rhyw awgrym o'r hyn i ddodcyn i'r cystadlu dechrau gyda llawer o dimau cenedlaethol yn dangos eu parodrwydd i droi at chwaraewyr iau cyflym ac yn dangos tueddiad i arbrawf gyda dulliau ymosodol yn y gemau paratoadol.



Yna rhaid ystyried cyd-destun y gemau o fewn natur ysbrydpêl droed De Americanaiddgyda chwe thîm o’r cyfandir hwnnw yn cymryd rhan.

Tydi cefnogwyr pêl droed De America ddim yn dangos yr un agwedd at gemau ac a geir mewn llawer o wledydd Ewropeaidd. Nid iddyn nhw mae meddylfryd sy'n bodloni ar gemau amddiffynol, di sgôr sy’n gorddibynnu ar dactegau amddiffynol wedi ei sefydlu at beidio â cholli.

Rydym i gyd wedi hen arfer o glywed am gefnogwyr pêl droed De America yn gwirio ar rythm y gêm, ac am samba’r Brasiliaid.

Cafwyd sylw yr wythnos diwethaf gan un o brif ohebwyr pêl droed De America sydd ddim yn synnu pa mor agoreda chyffrous mae gemau Cwpan y Byd wedi bod hyd yn hyn. MaeSergio Levinsky yn ohebydd sy’n ysgrifennu i gylchgrawn pel droed Jornada de Argentina a hefyd i Kicker, cylchgrawn Almaeneg.



"Tydi De Americanwyr ddim yn hoffi gorddibyniaeth ardactegau," meddai. "Mae nhw am weld hyblygrwydd yn y chwarae a’r bel yn cael ei symud yn gyflymo un chwaraewr i'r llall.

Dywed fod y cefnogwyram weld chwaraewyr gyda gallu yn perfformio i'w eithafoedd gan ddangos creadigrwydd a dychymyg.

"Mae llawer o dimau yn y byd yn newid y dull o chwarae a chredir mai un o’rgorau yw’r Eidal. Ar ôl cyfnod o fod yn o’r ddibynnol ar ddulliau amddiffynol, mae eu rheolwr presennol, Cesare Prandelliam weld chwarae mwy ymosodol”.

Dechreuodd yr Eidal eu newid ar ôl perfformiad digalon yn South Affrica 2010 ac mae eu chwarae deniadol gyda Mario Baloteli ar y blaen yn cael ei fwydo gan Andrea Pirlo o ganol cae yn dystiolaeth i newid yr agwedd a fu . Os gall yr Eidal newid eu hagwedd, fe all llawer i un arall.

Ond nid dyna'r holl stori. Mae timau, gan amlaf, yn gosod un chwaraewr amddiffynol o flaen eu dau amddiffynwr canol, gan annog y cefnwyr, de a chwith, i ymosod i lawr yr esgyll. Mae rhai timau yn gwneud hyn yn well nac eraill, ac yn meddu ar well chwaraewyr i basio'r bel yn gywir a chyflym drwy ganol y cae. Roedd perfformiad yr Iseldiroedd yn erbyn Sbaen yn enghraifft dda o hyn.

Yn olaf, mae’r cefnogwyr wedi ychwanegu at yr ŵyl hefyd. Mae blogiau teithiau Dylan Llewelyn yn gyson disgrifio'rawyrgylch a’r brawdgarwch syn bodoli, gyda’r lluniau sydd yn cael ei osod ganddo yn dangosblas y gêm ar ei orau. Does ond i ni edrych ar yr hapusrwydd, y lliwiau, y cyd-ddathlu, y gobeithion a'r lliwiau a’r canu sydd yn cael eu cynnal gan y cefnogwyr i ddeall fod ysbryd y gêm yn fyw ac iach ym Mrasil. Does dim neges well i'w anfon na dangos y gellir cynnal gemau pêl droed rhyngwladol mewn ysbryd o frawdgarwch a heddwch a fyddai'n gosod esiampl a rhoi gwersmewn gwleidyddiaeth ilawer o arweinwr politicaidd y byd ohoni.

Mae Cwpan y Byd yn ei chartref ysbrydol - boed i ni gyd dderbyn a rhannu ychydig o'r awyrgylcha gwneud ein rhan i barchuamrywiaeth a dileu casineb ar draws y byd. Mae’r esiamplau a'r rhagoriaethau wedi ei gosod.

Mwy o negeseuon

Nesaf

Cymru, Cape Verde, Celeste a Lionel Richie