Main content

Ar y Marc: Cefnogwyr rhyngwladol a charedigion y bel gron yn cymdeithasu

Dylan Llewelyn

Blogiwr Ar y Marc

Ar ôl blwyddyn o baratoi ac wythnos cyfan o deithio roedd awr a hanner di-sgôr, di-fflach a di-glem yn cadarnhau ein damcaniaeth fod y pêl-droed wastad yn difetha tripiau ffwtbol.

Wrth deithio'r cyfandir yn gweld gôl ar ol gôl ar deledu, roedd hi'n anorfod rhywsut fod y tri amigo am weld gêm sala'r gystadleuaeth. Ond peidiwch da chi a meddwl fod ni'n difaru! Cawsom wledd gwirioneddol rhyngwladol o amgylch yr Arena da Baixafo yn Curitiba.

Oriel luniau Dylan Llewelyn yng Nghwpan y Byd ym Mrasil.

Noson cyn gêm yn trafod polisi trosglwyddo Harry Redknapp a Mark Hughes efo dau ŵr o Nigeria - y naill yn byw yn Llundain a'r llall yn Abuja.

Brecwast wedyn efo Iraniaid oedd yn byw yn San Diego, Los Angeles a Vancouver. A swreal iawn oedd eistedd efo'r dyn oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r Ayatollah i Gaerdydd chwarter canrif yn ôl ynghyd â chriw o Iraniaid alltud pybyr oedd wedi clywed am 'ddathliad' y clwb arferai chwarae mewn glas.

A be well i wneud ar fore'n gêm gynta erioed yng Nghwpan y Byd na chanu tu allan i westy carfan Nigeria gyda'n ffrindiau newydd o Iran.

Coctel o wledydd, lliwiau a ieithoeddgyda diaspora anhygoel wedi canfod ffyrdd i gyrraedd Brasil. Mewn un pnawn bu i ni gyfarfod a sgwrsio mewn iaith y bêl gron gydag Iraniaid o America, Canada, Plymouth a Lerpwl - roedd gan hwnnw acen sgows gryfach na Jamie Carragher hyd yn oed - heb sôn am Wyddel oedd yn byw yn Awstralia a chefnogwyr Portiwgal o Panama.

Mewn un bar bach cyffredin roedd tua 12 cenedl di dod ynghyd i wylio'r Almaen yn chwalu Portiwgal. Cefais drafodaeth hir gyda Brasiliad a llanc o Ganada oedd yn dilyn Nigeria tra'n disgwyl am y tŷ bach. Doedd y Brasiliad ddim yn deall pam nad oedd un tîm Prydeinig fel ddigwyddodd yng ngemau Olympaidd Llundain. Ond tawelu'n go handi wnaeth o pan awgrymais basa cyfuno tîm Brasil gyda thim Yr Ariannin yn creu chwip o dîm! Byth bythoedd, amen diolch yn fawr.

Roedd yr awyrgylch tu allan i'r stadiwm yn arbennig - yn rhannol gan fod fy nghyd-deithwyr wedi dangos mwy o geilliau na mi (yn llythrennol falle) wrth dreulio'r diwrnod wedi gwisgo mewn siwtiau morph Cymreig. Roeddan nhw'n dynn iddyn nhw ac ar ôl un ymdrech i wasgu mewn i'r erchyllbeth, jibio oedd fy hanes i gan ddewis cymeryd cyfrifoldeb dros dynnu lluniau efo'r cannoedd o gefnogwyr o bob cwr oedd eisiau tynnu llun efo'r Cymry athletaidd!

Prin fu uchafbwyntiau gêm sy'n dibynnu ar Victor Moses, Shola Ameobi, John Obi Mikel, Peter Odimwingie a blaenwr Charlton Athletic, Reza Ghoochannejhad am ysbrydoliaeth.

Yr unig bethau trawiadol oedd gwylio'r miloedd o Frasiliaid yn cefnogi Nigeria yn swnllyd drwy'r hanner cynta cyn syrffedu ar anallu'r Affricanwyr a dechrau cefnogi Iran yn ystod yr ail hanner.

Ac yn ail, rhaid cyfadde i ias oer fynd drwyddai pan ddechreuodd y miloedd o'r Brasiliaid ddechrau bloeddio'u hanthem genedlaethol. Falle fod yna anfodlonrwydd mawr gyda'u gwleidyddion a gyda FIFA oherwydd y gorwario gwirion ar y stadiymau, ond coeliwch chi fi, mae nhw'n du hwnt o wladgarol wrth i'r faner hedfan ymhobman.

Bydde ennill Cwpan y Byd yn cuddio nifer o bechodau ond bydde colli'r gem agoriadol yn erbyn Croatia wedi tanio'r terfysg i'r eithaf.

Ac i gloi, cyn teithio am Sao Paulo a gêm fach ddibwys rhwng Lloegr ac Wrwgwai, os oedd yna unrhyw siom yn Curitiba, o leia cawsom ein cysuro nad oedd rhaid i ni wrando ar berlau Savage, Townsend, Chiles a Lawrenson a'r gweddill, heb sôn glywed yn ddyddiol am y "diweddara o gamp Lloegr". Amen i hynny ddwedwn i.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Rhagoriaeth yng Nghwpan Y Byd