Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Rhagfyr 2, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Bore Cothi - Mary Bott 

darlledu'n fyw - to broadcast live

y gyfrinach - the secret

ambell i wisgi - the odd whisgy

chi'mbo - dach chi'n gwybod

iach fel cneuen(idiom) - yn iach iawn

y fraint - the privilege

herio - to challenge

cyfweliad - interview

rhestr - list

anrheg - a gift

...Mary Bott yn siarad efo Shan Cothi mewn rhaglen gafodd ei darlledu'n fyw o Siop Awen Teifi, Aberteifi. Falle eich bod yn cofio Mary Bott, mi glywon ni hi ar y podlediad ym mis Hydref. Mae Mary dros ei nawdeg oed ac yn ddipyn o gymeriad! Dyma hi'n sôn wrth Shan am bethau mor amrywiol â botox a chapel Cymraeg Llundain - Capel Jewin. Mwynhwech y sgwrs...

Post Cyntaf - Gwenynod

gwenynod - bees

cynnydd - increase

cynghori - to advice

blodau gwyllt - wild flowers

adnoddau - resources

hafau - summers

nifer - a large number

y grefft - the craft

y wybodaeth - the information

rhwystr - a barrier

Dyna gymeriad ynde- swnio mwy fel trideg na nawdeg! Mary Bott yn fan'na ar Bore Cothi ddydd Llun diwetha. Dan ni'n mynd i gael gwybod dipyn am wenynod yn y clip nesa ma. Wil Griffiths o Gymdeithas Gwenynwyr Cymraeg Ceredigion fuodd yn siarad efo Kate Crockett ar Post Cyntaf am y cynnydd sydd wedi bod yn niferoedd y gwenynod. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Lisa Gwilym - Bedwyr Williams

Canolfan Gelfyddydol - Arts Centre

artist preswyl - resident artist

dw i wedi fy rhyfeddu - I am amazed

crynhoi - to summarize

cyfansoddwr neu wyddonwr - composer or scientist

casgliadau - collections

amgueddfa - museum

offerynnau - instruments

derwyddon - druids

arddangosfa - exhibition

Wel dyna ni - tasech chi wedi sylwi bod yna fwy o wenynod o gwmpas yr haf diwetha 'ma, dach chi'n gwybod pam rwan! Wil Griffiths o Gymdeithas Gwenynwyr Cymraeg Ceredigion yn fan'na yn siarad ar Post Cyntaf. Falle eich bod chi wedi clywed am rai o broblemau Pontio - y Ganolfan Gelfyddydol oedd i fod i agor ym Mangor yn ystod yr hydref. Er bod y Ganolfan heb lwyddo i agor eto, mae yna un dyn wedi bod yn brysur iawn efo gwaith y Ganolfan - Bedwyr Williams, artist preswyl Pontio. Llwyddodd Lisa Gwilym i gael gair efo fo ddydd Mercher a dyma fo'n sôn wrthi am ei waith yn y Ganolfan newydd...

Dylan Jones - Rhamant

dyweddïo efo - to become engaged to

yn y cnawd - in the flesh

rhyngrwyd - internet

datblygu - to develop

hynna faint - that much

parodd y bethynas - the relationship lasted

...a dyna i chi ychydig o hanes Bedwyr Williams, artist preswyl Pontio. Ychydig o ramant nesa. A tydy ein syniad ni o ramant wedi newid dwedwch? Dyma i chi stori Richard Logan Baker wnaeth ddyweddïo efo'i gariad, Christine, cyn iddo fo ei chyfarfod hi yn y cnawd hyd yn oed. Sut digwyddodd hynny dwedwch? Dyma Richard yn dweud yr hanes wrth Dylan Jones...



Hanner Canrif Hywel - Arbrawf



ymddiheuro - to apologise

hanes darlledu - broadcasting history

cyfeilio - to accompany

cyweirnod - keynote

annwyl Dad! - goodness me!

ymuno â - to join with



Tasech chi wedi dweud wrth rywun ugain mlynedd yn ôl ei bod hi'n bosib cyfarfod â'ch gwraig dros y we, fasai neb yn eich credu dw i'n siwr. Pob lwc i Richard a Christine ynde? Mi roedd angen mwy na lwc ar Hywel Gwynfryn, Caryl Parry Jones a Trebor Edwards wrth iddyn nhw drio uno Cymru mewn cân ychydig o flynyddoedd yn ôl. Clip o'r archif ydy hwn yn rhan o raglen Hanner Canrif Hywel. Dw i'n ymddiheuro o flaen llaw am y swn drwg...

Mwy o negeseuon

Nesaf