Bydd BBC Radio Cymru yn benthyg - ac yn addasu - un o draddodiadau'r Nadolig eleni wrth i dri cyflwynydd "doeth" fentro ar daith arbennig iawn o'r de i'r gogledd i ddathlu'r Ŵyl.
Bydd hwyl a chyffro Taith Doethion Radio Cymru i'w glywed o fewn nifer o raglenni mwyaf poblogaidd yr orsaf fel rhaglen Dylan Jones, Bore Cothi a Tommo. Gan ddechrau yng Nghaerdydd fore Llun, Rhagfyr 15 ac anelu i gyrraedd Bangor brynhawn Gwener, Rhagfyr 19, bydd y doethion, sef neb llai na Hywel Gwynfryn, Heledd Cynwal ac Aled Hughes, yn ymweld ag unigolion, sefydliadau a chymunedau lu er mwyn taenu ychydig o hud a hwyl yr Ŵyl dros amserlen ddyddiol yr orsaf.
Daeth y tri cyflwynydd deallus at ei gilydd yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd heddiw, a chyflwynwyd addurn enfawr arbennig Radio Cymru iddynt er mwyn lansio'r daith yn fyw ar raglen Bore Cothi. Mae'r tri yn cynllunio llwybr ar gyfer y daith, fydd yn gwneud y cyfan yn arafach ac yn fwy troellog na theithiau arferol. Mae'r daith yn debygol o gynnwys lleoliadau fel Bethlehem (Sir Gâr) Nasareth (Gwynedd) a phwy a wyr ble arall - a bydd y tri yn cyrraedd Ysbyty Gwynedd ym Mangor fore Gwener, cyn ymuno â pharti Nadolig rhaglen Tudur Owen ar ben y daith y prynhawn hwnnw.

Hywel Gwynfryn, Heledd Cynwal ag Aled Hughes
"Rydan ni i gyd wedi hen arfer hefo rhuthro o un rhan o'r wlad i'r llall er mwyn cyrraedd pen y daith cyn gynted â phosib," meddai Hywel, "ond rwan mi fydd gan y tri ohonom esgus i ddilyn llwybr go wahanol, gan gyfarfod hefo ffrindiau hen a newydd ar hyd y ffordd a cheisio adlewyrchu be' mae'r Nadolig yn ei feddwl y dyddiau yma i bobl yng Nghymru benbaladr."
Meddai Heledd: "Dyma beth yw braint! Wythnos gyfan yn teithio trwy Gymru yng nghwmni neb llai na Hywel ac Aled, a chyfarfod llu o wrandawyr hen a newydd ar hyd y ffordd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael blas ar rai o ddathliadau'r ŵyl drwy Gymru gyfan!"
Dywedodd Aled: "Dydw i a'r gair doeth erioed wedi cael eu defnyddio yn yr un frawddeg o'r blaen, felly mi nes i fachu ar y cyfle yma'n syth! Dwi'n siwr y caiff y tri ohonom ni lond sach o hwyl ar hyd y daith."
Mae 'na lai na phythefnos tan ddechrau'r daith, ac mae'r tri yn awyddus i dderbyn unrhyw awgrymiadau gan wrandawyr am leoliadau, pobl neu weithgareddau Nadoligaidd i'w hychwanegu at y cynlluniau. Gellir ebostio unrhyw awgrymiadau i radio.cymru@bbc.co.uk
Bydd cyfle i bobl ymuno yn hwyl y daith trwy wrando yn fyw ar BBC Radio Cymru yn ystod yr wythnos, ac yn ogystal bydd cyfle i gael blas o'r daith ar safle Radio Cymru ar-lein ac ar wefannau cymdeithasol drwy chwilio am yr hashnod #Doethion.
"Dyma gyfle i ddathlu'r wyl yng nghwmni Radio Cymru a'r doethion hyn," meddai Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru. "Byddwn hefyd yn cynnig cyfle dros y Nadolig i ddeall mwy am garolau mewn rhaglen arbennig yng nghwmni Iwan Llywelyn Jones, bydd cyfle i glywed hoff gerdd Dolig, a chawn hefyd ddatgelu mwy am Nadolig cerddorol Richard Rees a Lisa Gwilym. Efallai y bydd yr wyl yn rhoi mymryn o hoe i chi a chyfle i eistedd am fymryn a gwrando ar sgyrsiau diddorol a dadlennol. Bydd ail gyfle i wrando ar griw Pobol y Cwm yn perfformio Dan y Wenallt tra bod y twrci'n setlo. Ymunwch gyda ni, felly, a Nadolig Llawen iawn i chi i gyd."
