Ar ôl treulio tridia dros gan cilomedr lawr yr Amazon, ymhell bell o hanfodion ein bywydau pob dydd fel wi-fi, cawodydd cynnes, bwyd llawn cynhwysion annaturiol a phlant yn canu caneuon o Frozen, roedd cyrraedd maes awyr Manaus eiliadau cyn y gic gyntaf rhwng Brasil a Chile yn Belo Horizonte yn ryddhad ac yn agoriad llygaid i psyche cenedlaethol y Brasiliaid.
Wir i chi, welais i rioed faes awyr rhyngwladol gydag agwedd mor ffwrdd a hi tuag at ddiogelwch. Faswn i di gallu mynd a llond rycsac o semtecs drwy beiriant pelydr x gan fod y boi oedd i fod i fonitro bagiau yn gwylio'r gêm ar ei laptop, yn hytrach na chwilio am sebon a siampŵ yng nghanol fy sannau budr.
Un peth oedd bod yn ddiogel ar y llawr wrth gwrs, gyda pob siop a chaffi yn agored ond gyda pob 'gweithiwr' wedi sodro'u hunain o flaen teledu. Mater arall oedd meddwl camu ar awyren TAM - BA Brasil ond cymaint gwell - gyda'r peilot mewn pydew o iselder ar ôl gweld y selecão yn cael clec gan Chile!
Galwyd ni i'r giât fel chwibanodd Howard Webb am giciau o'r smotyn. Wrth gerdded i'r awyren roedd hi'n amlwg mai gwrando ar setiau radio yn hytrach nac unrhyw walkie-talkies oedd y mecanics. Roedd nifer o'r teithwyr yn gwylio'r gem ar eu ffonau symudol a llwyddais i weld yr ymdrechion gwych a gwachul ar ffôn dynes oedd yn gweddïo yn ddistaw wrth gamu fyny grisiau'r A320.
Teg dweud bu dawnsio, dathlu a mwy o weddïo ar yr awyren cyn codi am Recife ac yna Salvador, gan adael ardal yr Amazonas ar ein holau wedi pedwar diwrnod gwahanol mewn ardal oedd yn gwbl wahanol i unrhyw beth welsom yng ngweddill Brasil.
Dewis gwleidyddol oedd cynnwys dinasoedd ar y cyrion arferol megis Manaus a Cuiaba fel dinasoedd Cwpan y Byd, ond rhywsut roedd yna werthfawrogiad lleol amhrisiadwy. A dyna chi rhywbeth i Trefor, Jonathan a chriw ein Cymdeithas Bêl-droed gnoi cîl drosto ynde!
O'r eiliad glaniodd ein ffleit bedair awr o Rio, roedd yna wir deimlad fod pobl yn falch o'r cyfle i groesawu ymwelwyr i'w dinas a'u hardal gwasgaredig nhw o'r wlad.

Oriel Dylan Llewelyn yng Nghwpan y Byd - Brasil
Tydi Manaus ddim yn ddinas ddel. Er fod hi'n wirioneddol yng nghanol nunlle mae na ddwy filiwn yn byw mewn horwth o ddinas ddiwydiannol sydd â chanol hynafol bach iawn. Ond bois bach mae o'n le poeth! Poeth a llethol drymaidd. Dwi di bod yn Abu Dhabi ym mis Awst ond roedd fanno fel Alaska o'i gymharu â Manaus. Does ryfedd fod ni'n gwerthfawrogi'r poteli Coca-Cola a Budweiser gafodd eu dosbarthu yn rhad ac am ddim gan ferched siriol wrth i ni ddisgwyl am ein bagiau.
Chawsom ni ddim croeso mor gynnes yn y Ty Opera enwog, neu'r Teatro Amazonas i'r trigolion lleol. Rhywsut neu'i gilydd llwyddom i fynd am daith diwedd dydd answyddogol o amgylch y Ty Opera ysblennydd ar ôl canfod drws cefn handi. Roedd hi'n anorfod rhywsut mai camu trwy llenni trwchus ac ar lwyfan nath y tri ohonom a dechrau tynnu lluniau criw o ymwelwyr swyddogol oedd yn gwylio perfformiad gan griw o gerddorion brodorol. Ac fel ymhob ffars, bu'n rhaid gadael y llwyfan ar garlam wrth i ddyn mewn crys a thei ddechrau astudio'r tri ffotograffydd annisgwyl!
Ond fin nos roedd y Praça São Sebastião yng nghysgod y Ty Opera yn orlawn o ferched lleol oedd yn awyddus iawn i roi croeso Amazonaidd i dwristiaid Cwpan y Byd. Fel ddwedodd Gwilym, roedd hi fel bod yn ôl mewn disco clwb ieuenctid wrth i ferched wenu arnoch gan ymarfer eu Saesneg ansicr wrth ddweud "I like you" wrth bob gringo gerddodd heibio. Mae na siawns eitha da fod Manaus wedi gweld ail 'rubber boom' ers dechrau Cwpan y Byd!
Fedrwch chi ddim gwneud fawr o ddim heb chwysu ym Manaus. Roedden ni yn wlyb socian tra mond yn disgwyl am y gic gynta rhwng Honduras a'r Swistir yn yr Arena Amazonas wrth i byllau o chwys gasglu o amgylch ein traed. Duw a wyr sut oedd disgwyl i unrhyw un redeg yn y fath dywydd, oni bai fod o'n arbrawf ar gyfer ffwlbri Qatar ymhen wyth mlynedd.
Ar ôl bron a cholli fy maner yn Curitiba, doedd Draig Goch Pwllheli heb adael ein hystafell wely yn Sao Paulo a Rio ond ar ôl gweld ambell faner go fawr yn cael llonydd yn yr hanner cyntaf, mentrais roi Pwllheli ar y map rhyngwladol hanner amser. Hynny yw i unrhyw un fydda’n trafferthu gwylio Honduras yn erbyn Y Swistir ar BBC3 am 9 yn y nos!
Erbyn imi ganfod llecyn gwag, cerdded i ochr arall y stadiwm i dynnu ei lun a dychwelyd i'm sedd roedd rhyw ddiawl wedi ei ddwyn o. Creisus!
Neshi ddim gweld ail hanner y gêm gan fy mod wedi gorfod chwilio am fy maner annwyl sydd wedi bod ar deithiau gyda Chymru ers taith i Gyprys yn 1992. Roeddwn yn gwybod ers Curitiba fod y faner yn fwy na 'r hynny a ganiateir gan reolau stadiymau Cwpan y Byd felly roedd na beryg fod hi wedi mynd am byth. Doedd gan y stiwardiaid ddim clem na diddordeb ateb f'ymholiadau, ond diolch i gymorth parod a chwrtais dwy o wirfoddolwyr - y naill o Sao Paulo a'r llall o Manaus - llwyddodd y camerâu diogelwch i ddarganfod pwy a pham bu i Ddraig Goch Pwllheli. Cefais fy nhywys o amgylch y stadiwm gan y ddwy i gwrdd a dyn o LOC (Local Organising Committee) oedd yn dal Draig Goch yn ei ddwylo.
"Is this your flag with some kind if red lizard in the middle ?" oedd ei gwestiwn cyntaf mewn acen oedd yn drewi ychydig yn ormodol o MTV a CNN. Ar ôl cywiro'r clown yn go handi, eglurodd fod nhw wedi gorfod tynnu fy maner gan iddi fod yn amharu ar un o'r camerâu teledu. Digon teg!
Parhau nath y croeso a'r lletygarwch. Ymddiheurodd fy ffrindiau newydd am y dryswch gan obeithio na fydde'r profiad yn amharu ar f'atgofion o Manaus. Yna, wrth holi am gyfarwyddiadau am sut i gyrraedd ein gwesty, cynigiodd cwpl ifanc lifft yn ôl i dri Cymro chwyslyd a drewllyd gan fod o ddim yn rhy bell o'u cartref nhw. Obrigado yn wir i Senhor a Senhora Trugarog!
Roedd y profiadau hynny yn profi fod cwrdd â phobl yn fwy cofiadwy na chicio unrhyw bêl o ran profiadau bythgofiadwy'r ddaith.
Pryd arall fasa chi'n treulio tridiau yn nwfn mewn jyngl yn trafod tactegau gyda phedwar Americanwr ifanc oedd newydd raddio, cwpwl o San Diego oedd newydd ddechrau blwyddyn o deithio o amgylch De America a phedwar o gefnogwyr mwya pybyr Y Swistir, ynghyd â thywysydd profiadol o Periw arferai fyw yn Aberdeen am ddeunaw mlynedd.
Ydi, mae'r byd yn grwn ac yn grêt gyfeillion!
