Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Aled Hughes - Pel-droed
Mewn cysylliad â - In contact with
Yn eu diniweidrywdd - In their innocence
Hynod o hogyn hoffus - An extremely likeable lad
Distaw - Quiet
Wastad yn ei atgoffa - Always remind him
Calon - Heart
Nic Parri oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha a gan fod y tymor pêl-droed newydd ddechrau, be' gwell na blas ar sgwrs rhwng Nic a Cledwyn Ashford sy'n gweithio fel sgowt i dim pêl-droed Cymru.
Dyma fo'n son am rai o'r bechgyn ifanc buodd o'n weithio efo nhw.
Georgia Ruth - Alis Huws
Sêr ifanc - Young stars
Penodi - To appoint
Telynores Frenhinol - Royal harpist (female)
Yn gyhoeddus - Publicly
Cyfrinach - A secret
Clyweliadau - Auditions
Enwebiad - Nomination
Cyfweliad - Interview
Adloniant - Entertainment
Dilyn - To follow
Cledwyn Ashford oedd hwnna yn sôn wrth Nic Parri am un o sêr ifanc tim pêl-droed Cymru, Harri Wilson.
Mae Alis Huws newydd gael ei phenodi yn Delynores Frenhinol i'r Tywysog Charles. D
yma hi'n siarad gyda Georgia Ruth ac yn sôn am sut cafodd hi wybod am y penodiad.
Gari Wyn - Sara Roberts
Cwnsler Cyffredinol - General Counsel
Rhyngwladol - International
Ieithoedd - Languages
Y gyfraith - The law
Rhydychen - Oxford
Trawsnewid - To transform
Galluogi - To enable
Alis Hughes yn fan'na yn sôn ychydig am ei swydd newydd fel Telynores Frenhinol.
Un arall sydd wedi cael swydd newydd ydy Sara Roberts. Mae hi wedi ei phenodi fel Cwnsler Cyffredinol i gwmni rhyngwladol Equistone.
Astudio ieithoedd wnaeth Sara yn y coleg i ddechrau cyn troi at y gyfraith.
Gofynnodd Gari iddi hi pam wnaeth hi benderfynu newid.
Dei Tomos - Roy Bohana
Gwyddelig - Irish
Traddodiad cerddorol - Musical tradition
Cyfeilio - To accompany
Cael ei arwain - Was conducted
Corawl - Choral
Cor cymysg - Mixed choir
Arweinyddes - Conductress
Awyrgylch cerddorol - Musical environment
Sara Roberts oedd honna'n sgwrsio efo Gari Wyn am ei swydd newydd gyda chwmni Equistone.
Buodd y cerddor Roy Bohana farw ddechrau'r flwyddyn ac ar raglen Dei Tomos wythnos diwetha clywon ni glip o'r archif gyda Roy Bohana yn sôn am sut dechreuodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth, pan oedd yn blentyn ifanc yng Nghaernarfon.
Bore Cothi - Eirlys Wyn Jones
Y diweddar - The late
Meddech chi - Say you
Ymgartrefu - To set up home
Cyfleoedd - Opportunities
Hybu - To encourage
Lansiad - Launch
Y diweddar Roy Bohana yn fan'na yn son am ei blentyndod yng Nghaernarfon.
Mae nofel gynta Eirlys Wyn Jones wedi ei chyhoeddi. Dim byd arbennig am hynny, meddech chi, ond mae Eirlys yn 76 oed.
'Pwy wyt ti'n meddwl wyt ti?' ydy teitl y nofel ac mi gafodd Shan Cothi air gyda hi amdani'r wythnos diwetha.
Bore Cothi - Ben Lawson
Y fyddin - The army
Llanilltud Fawr - Llantwit Major
Bro Morgannwg - Vale of Glamorgan
Mwyngloddio - Mining
Ar bwys Caeredin - Near Edinburgh
Ysbrydoli - To inspire
Arwyddion - Signs
Mae pawb yn synnu - Everone is surprised
Eirlys Wyn Jones yn fan'na yn sôn wrth Shan Cothi am ei nofel gynta 'Pwy wyt ti'n meddwll wyt ti?'.
A dan ni'n mynd i aros gyda Bore Cothi am ein clip nesa. Mae Ben Lawson yn dod o'r Alban yn wreiddiol, ond ar ôl iddo fo ymddeol o'r fyddin, daeth i fyw i Lanilltud Fawr ym Mro Morgannwg.
Mae o wedi dysgu Cymraeg a dyma fo'n esbonio wrth Shan pam penderfynodd o ddysgu'r iaith.
