Geirfa Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr: Chwefror 24, 2015
Geirfa Podlediad i Ddysgwyr
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Stiwdio gyda Nia Roberts - Mari Griffith
wastad - always
rhaglenni dogfen - documentaries
gwaith ymchwil trylwyr - thorough research
arbenigwraig - expert ( female)
rhaid i mi gyfaddef - I must admit
darganfyddes i - I found
dw i wedi danto - I've had enough
dim siw na miw - no mention at all
addasu - to adapt
asgellwr - winger
"...clip bach fydd o ddiddordeb i chi os dach chi'n gwylio'r gyfres deledu Wolf Hall. Cyfres ydy hon wrth gwrs am y Tuduriaid, ond faint o sylw sy'n cael ei roi mewn rhaglenni fel hyn i'r ffaith bod gwaed Cymreig yn perthyn i'r teulu yma? Dim llawer yn ôl Mari Griffiths, oedd yn teimlo mor gryf am y peth mi sgwennodd hi nofel Saesneg "Root of the Tudor Rose" er mwyn rhoi sylw i'r ffaith hwnnw. Dyma ei nofel gynta hi a dydd Mawrth gafodd Nia Roberts sgwrs fach efo hi ar Stiwdio. Dyma i chi flas ar y sgwrs honno..."
Rhaglen Dylan Jones - Dr.John Davies
yn fugeiliol - pastoral
yn gyfarwydd - familiar
awyrgylch - atmosphere
godidog - superb
dodwy wy - to lay an egg
delwedd - image
cymleth - complicated
athrylith - genius
mynegi - to convey
darlith - a lecture
Mari Grifffiths yn fan'na yn siarad efo Nia Roberts am ei nofel newydd "Root of the Tudor Rose". Mi fuodd hi'n wythnos drist iawn yng Nhymru yr wythnos diwetha wrth i ddau o fawrion ein gwlad ein gadael ni. Ddydd Sadwrn diwetha buodd Dr Meredydd Evans farw, ac ychydig o ddyddiau cyn hynny bu farw'r hanesydd Dr John Davies, neu John Bwlchllan fel roedd llawer iawn yn ei nabod. Roedd Tweli Griffiths yn gadeirydd ar y neuadd i fyfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Neuadd Pantycelyn, pan oedd John Bwlchllan yn warden arni. Dyma Tweli'n siarad efo Aled Hughes am rai o'r straeon mae o'n ei gofio o'r adeg hynny...
Bore Cothi - Huw Jones
telynor o fri - a renowned harpist
cerddorfeydd - orchestras
dawn - talent
pwnc - subject
y gweddill - the rest
niwl a tharth - fog and mist
dewr - brave
breuddwydio - dreaming
crwt bach - bachgen bach
addurn - decoration
"Tweli Griffiths yn cofio am y diweddar Dr John Davies ar raglen Dylan Jones ddydd Mawrth diwetha. Dydd Iau diwetha mi glywon sgwrs ddifyr iawn rhwng Shan Cothi a’r telynor o fri, Huw Jones. Mae Huw yn dod o Frithdir ger Dolgellau yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n byw yn Melbourne, Awstralia. Mae o wedi ymddeol rwan ond yn ystod ei yrfa mi gaeth o'r cyfle i berfformio ar draws y byd, fel y cawn ni glywed rwan..."
C2 Lisa Gwilym - Gwobrau Selar
Gwobrau Selar - The Selar Awards
rhestr fer - shortlist
newyddiadurwraig - journalist (female)
trefnydd - organiser
buddugol - victorious
rhagolygon - forecast
cydnabyddiaeth - recognition
y cyhoedd - the public
pleidleisio - to vote
cyfrannwr - contributors
Y telynor Huw Jones yn sôn wrth Shan Cothi yn fan'na am ei yrfa yn perfformio mewn nifer o wledydd gwahanol. Cerddoriaeth o fath gwahanol oedd i'w gael yn seremoni Gwobrau Selar nos Sadwrn diwetha. Cylchgrawn pop ydy Selar ac roedd Lisa Gwilym yn edrych ymlaen at eu seremoni flynyddol yn Aberystwyth. Yn y stwidio efo hi oedd Teleri Glyn Jones, Nico Dafydd a Gwenllian Llywelyn Jones. Be oedden nhw'n edrych ymlaen ato fwyaf yn y seremoni tybed...?
Bore Cothi - Yr Oscars
enwebu - to nominate
darlledu'n fyw - to broadcast live
profiad anhygoel - incredible experience
diwydiant ffilm byd eang - world wide film industry
efelychu - to emulate
ailystyried - to reconsider
tirwedd - landscape
plwyfol - parochial
cyhuddo - to accuse
diddanu - to entertain
"Gwesteion Lisa Gwilym yn edrych ymlaen at noson Gwobrau Selar yn Aberystwyth. Wrth gwrs mae na ryw seremoni wobrwyo fach arall yn cael ei chynnal draw yn Los Angeles yndoes - yr Oscars. Bore Gwener, buodd Shan Cothi yn sgwrsio am yr Oscars efo Berwyn Rowlands, sydd yn drefnydd Gwyl Ffilmiau "Iris" gafodd ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Hydref. Dyma i chi ran o'r sgwrs lle buon nhw'n trafod y ffilmiau Cymraeg sydd wedi cael eu henwebu am Oscar yn y gorffennol... "
