Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Geirfa Mawrth 24ain - 30ain 2018
Geirfa Podlediad i Ddysgwyr
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Dei Tomos - Dilwyn Morgan
llongddrylliadau - shipwrecks
gorlwytho - overloading
elw - profit
deunawfed ganrif - 18th century
diogelwch - safety
canran uchel - high percentage
cwmpawd - compass
yn hollol ddiniwed - totally blameless
amcanu - to estimate
llanw - tide
"Mae gan Dilwyn Morgan ddiddordeb mawr yn y môr a'r glannau ac mewn llongddrylliadau - ac mae digon ohonyn nhw wedi digwydd ar arfordir Cymru dros y blynyddoedd. Buodd Dilwyn yn sôn mwy am hyn ar raglen Dei Tomos nos Sul a Nos Fawrth. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."
Bore Cothi - Eden
wedi aeddfedu - matured
pwysau - pressure
cynulleidfa - audience
cyflwyno - presenting
rhyfedd - strange
dylanwadu - to inluence
dros y degawdau - over the decades
esblygu - evolve
gweledigaeth - vision
doniau - talents
"Dilwyn Morgan yn fan'na yn esbonio pam bod cymaint o longddrylliadau wedi digwydd yn y gorffennol. Roedd llawer iawn o fandiau merched o gwmpas yn y nawdegau, a falle mai'r un mwya enwog oedd y Spice Girls. Ond roedd yna fand Cymraeg yn perfformio yr un adeg - Eden. Mi wnaethon nhw ail-ddechrau perfformio ddwy flynedd yn ôl a nos Sadwrn diwethaf roedd cyngerdd Eden ac Elin Fflur i'w weld ar S4C. Bore Dydd Mawrth ar Bore Cothi cafodd Sh?n gwmni Non, Emma a Rachel, aelodau'r grwp, ac mi fuon nhw'n sôn wrthi hi am y profiad o ail gychwyn perfformio ar ôl egwyl o ugain mlynedd."
Rhaglen Aled Hughes - Dafydd Iwan
parhaol - permanent
yn gyffredinol - generally
wedi dychryn - scared
offeryn - piece of eqipment
sain - sound
ymenydd - brain
arbenigwyr - experts
cydnabod - acknowledge
cyfarwyddyd a chyngor - guidance and advice
annifyr - unpleasant
"Eden yn fan'na yn amlwg yn mwynhau perfformio unwaith eto. Un arall sydd wedi gwneud sawl 'come-back' yn y gorffennol ydy Dafydd Iwan, ond mae o, fel sawl cerddor arall, yn poeni bod perfformio'n fyw dros y blynyddoedd wedi effeithio ar ei glyw..."
Agoriad Llygaid - Bethan ac Anya
sawl triniaeth - many treatments
wnaeth ddatblygu yn y groth - developed in the womb
chwalu - destroy
cyhyrau - muscles
trawsblaniad - transplant
gwnïo - to sew
sownd - stuck
wedi gwanhau gymaint - has weakened so much
llu o broblemau - loads of problems
yn ei sgil - consequently
"Dafydd Iwan yn esbonio wrth Gaynor Davies ar raglen Aled Hughes sut mae perffomio'n fyw dros y blynyddoedd wedi achosi iddo fo gael tinnitis. Colli eu golwg mae Bethan ac Anya, ac ar raglen Agoriad Llygaid mi glywon ni Bethan Richards yn sôn am ei phrofiad a'i brwydr bersonol hi i drio cadw ei golwg.."
Rhaglen Geraint Lloyd - Gweilch Glaslyn
Gweilch Glaslyn - The Glaslyn Ospreys
gwirfoddolwyr - volunteers
cychwyn - to start
yn hegar - very hard
crafu'r rhew - scraping the ice
hurt - stupid
pewar can llath - 400 yards
barrug - frost
llosgi - burning
"Hanes trist Bethan Richards oedd hwnna, pob lwc iddi hi ac Anya. Dach chi wedi clywed am y gweilch sy'n dod i afon Glaslyn ger Porthmadog bob blwyddyn? Mae Gwen yn un o'r gwirfoddolwyr gyda'r prosiect lleol Gweilch Glaslyn a'r penwythnos diwethaf buodd hi a'i dwy ffrind yn cymryd rhan mewn triathlon er mwyn codi arian at achos pwysig hwn. Dyma Gwen yn sôn wrth Geraint Lloyd am y triathlon..."
Rhaglen Geraint Lloyd - Rheilffordd Corris
rheilffordd - railway
tyfu - to grow
canol y chwedegau - mid- sixties
"Awn ni at grwp arall o wirfoddolwyr rwan. Mae yna griw sy'n cadw gorsaf reilffordd bach brysur i fynd yng Nghorris yn Ne Gwynedd. Aeth Geraint Lloyd i gael gair efo un ohonyn nhw, David Coleman. "
