Main content

Tîm Cenedlaethol Swydd Efrog

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Tra ‘roedd Cymru yn ymestyn gorwelion draw, draw yn Tsiena a thiroedd bell fyd, mae timau rhyngwladol eraill wedi bod un brysur baratoi ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd, a hefyd, fel Cymru ar gyfer gemau agoriadol Cwpan y Cenhedloedd fydd yn cychwyn yn yr hydref.

Ond, roedd yna gêm arall hefyd, gem ryngwladol i wlad, neu a bod yn gywir, i ranbarth arall, sef tîm rhyngwladol Swydd Efrog!

Ie, dwi’n gwybod ei bod yn Ebrill y cyntaf diwedd yr wythnos, ond darllenwch ymlaen.

Mae cymdeithas ryngwladol bel droed Swydd Efrog wedi cael ei sefydlu ac wedi cael eu derbyn i fod yn aelod o gorff amgen y byd pêl droed, sef ConIFA, (Cydffederasiwn Cymdeithasau Pêl-droed Annibynnol) , sy’n cynnal gemau i bob gwlad neu ranbarth ar draws y byd sydd ddim yn cael eu cydnabod gan FIFA.

Mae'r sefydliad yma yn un dielw sy'n gweithredu'n fyd-eang sy'n cefnogi cynrychiolwyr o dimau pêl-droed rhyngwladol o genhedloedd de-facto, rhanbarthau, pobl leiafrifol a thiriogaethau na chaiff eu cynnwys mewn chwaraeon.

Sefydlwyd ConIFA ar y 7fed o Fehefin 2013, a chynhaliwyd Cwpan Pêl-droed cyntaf y mudiad cyntaf ym mis Mehefin 2014 yn Ostersund, Sweden. Swydd ardal Nice ( Ffrainc) a enillodd, gan guro Ellan Vannin( Ynys Manaw) yn y ffeinal, ac yn 2016, fe gynhaliwyd yr ail Gwpan y byd, y tro yma yng ngwlad Abkhazia (sydd o fewn tiriogaeth Georgia). Sapmi ( o ogledd Sgandinafia / Rwsia) oedd yr enillwyr, yn trechu Gorllewin Armenia yn y ffeinal.

Un o weledigaethau ConIFA yw cyfrannu at wella cysylltiadau byd-eang a dealltwriaeth ryngwladol. I wireddu hyn, ceir cyfres o amcanion fel adeiladu pontydd rhwng pobl, cenhedloedd, lleiafrifoedd a rhanbarthau anghysbell ledled y byd trwy gyfeillgarwch, diwylliant a’r hoffter o chwarae pêl-droed.

I ddod yn gymwys i gymryd rhan yn y gemau, rhaid i’r chwaraewyr gael eu geni yn y rhanbarth ac mae’n ofynnol i wlad / ranbarth ddangos fod ganddynt ddiwylliant a thraddodiad hanesyddol ac unigryw ac yn sgil hyn mae swydd Efrog wedi cael eu derbyn fel aelodau.

Maent yn tynnu eu chwaraewyr o dimau y tu allan i brif gynghreiriau Lloegr, fel Stocksbridge Park Steels, Ossett Albion neu Bradford Park Avenue, ac os nad ydych yn credu y byddai unrhyw chwaraewr o werth yn datblygu o fewn y timau yma, hwyrach y dylwn gofio mai gyda Stocksbridge y cychwynnodd gyrfa Jamie Vardy ei yrfa ( a hwyrach mai dyma fydd ei obaith orau o ennill rhywbeth yn rhyngwladol!).

Chwaraewyd y gêm gyntaf ar Ionawr 28ain yn erbyn tîm Ellan Vannin a chafwyd gem gyfartal (1-1) ar faes Hemsworth Miners Welfare gerllw Wakefield, a dilynwyd hyn gyda gem y penwythnos diwethaf yn erbyn Ynysoedd Chagos( sef cyfres o ynysoedd bychan ynghanol Cefnfor India ) gyda Swydd Efrog yn fuddugol o chwe gôl i ddim.

Gyda llaw ‘roedd torf o 627 yn gwylio’r gêm yn erbyn Ellan Vannin , bron dwywaith mwy nag a oedd ar Barc y Neuadd yng Nghroesoswallt y Sul diwethaf yn gweld y Seintiau Newydd yn derbyn tlws pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru wrth guro Derwyddon Cefn ! Mae hynny’n frawychus !

Fodd bynnag, er bod tîm pêl-droed cenedlaethol Ynysoedd Chagos yn dîm sy’n amlwg yn cynrychioli tiriogaeth Archipelago Chagos yn y Cefnfor India, nid oes unrhyw un yn byw ar yr ynysoedd yma, sy'n dod o dan weinyddiaeth Tiriogaeth Cefnfor Indiaidd Prydain, heblaw staff canolfan milwrol yr Unol Daleithiau sydd wedi ei leoli ar ynys Diego Garcia. O ganlyniad, mae'r tîm mewn gwirionedd yn cynrychioli'r diaspora Chagossian ar draws y byd, gyda’r rhan fwyaf yn ôl pob tebyg, yn byw o gwmpas Llundain.

Bydd y gêm nesaf yn Llundain ar y pymthegfed o Ebrill yn erbyn Barawa sef tîm yn cynrychioli pobol o gefndir Somaliaidd.

Y cwestiwn amlwg i'w ofyn ydi a oes yna le i unrhyw dim o Gymru yn y gymdeithas yma? Beth felly am Ynys Môn, sydd eisoes yn cystadlu yn gyson yng nghystadleuaeth pêl droed Gemau'r Ynysoedd ac wedi chwarae yn erbyn gwledydd sy’n aelodau o ConIFA, fel Ellan Vannin neu Greenland?

Cam arall ymlaen felly a pwy a ŵyr na fydd Ynys Môn yn codi Cwpan y Byd rhyw ddydd?

Ar y llaw arall, tybed a fydd cefnogwyr brwd Leeds United ( ac mae'r rheini i’w cael ym mhob man!) yn troi i fod yn genedlaetholwyr pybyr o’u rhanbarth ac yn dilyn eu tîm i bob cwr o’r byd, gan ganu eu hanthem "On Ilkla Moor Baht 'at" cyn pob un o’r gemau?

Yn y cyfamser, mae gen i wŷr ifanc iawn sy’n byw ac wedi cael ei eni yn Leeds, ac os nad y fo fydd y Gareth Bale nesaf, pwy a ŵyr na ddaw yn ddigon da i chwarae yn rhyngwladol dros Swydd Efrog yn y dyfodol?

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Mawrth 16eg - 23ain 2018