Main content

Geirfa Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr - Ebrill 24, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Cofio - Osian Ellis

telynor - harpist

tu cefn llwyfan - backstage

Siôr y Chweched - George V1

darlledu - to broadcast

cerddorfa - orchestra

sêr - stars

gwahoddiad - an invitation

golygfa - scene

cyfeilio - to accompany (musically)

corgwn - corgis

...sgwrs rhwng y telynor enwog Osian Ellis a John Hardy ar y rhaglen 'Cofio' nos Fercher. Mae Osian Ellis wedi perfformio mewn rhai o theatrau mwya'r byd, ac o flaen y teulu brenhinol sawl gwaith. Ond mae'r sgwrs yma'n dechrau efo Osian yn sôn am ei amser yn gweithio yn y London Palladium. Dyma fo yn dweud yr hanes...

Rhaglen Dylan Jones - achubwyr bywyd



achubwyr bywyd - lifeguards

argoeli i fod - promises to be

gwasanaeth bad achub - lifeboat service

y cyhoedd - the public

traethau anhygoel - incredible beaches

y llanw - the tide

twyllo - decieve

cerrynt - current (of water)

diffyg gwybodaeth - lack of knowledge

baneri - flags

Difyr ynde? Dw i'n siwr byddai gan Osian Ellis lawer iawn o hanesion i'w dweud am yr adeg pan oedd o'n rhannu ty efo’r actorion Hugh Griffith a Richard Burton. Cawn ni eu clyed nhw rhyw ddydd, debyg. Yn doedden ni'n lwcus efo'r tywydd dros y Pasg yma? Mi roedd traethau Cymru'n hynod o brysur dros y gwyliau, ac mae hynny'n golygu llawer o waith i'r RNLI yn anffodus. Aeth Aled Hughes i Aberystwyth i gael sgwrs ar ran rhaglen Dylan Jones efo Eleri Roberts o’r RNLI a Tommy Turner, sy’n gweithio fel achubwr bywyd ar draethau ardal Aberystwyth

Stiwdio - Oriel Nwy



sefydlu - to establish

Oriel Nwy - Gas Gallery

am 'wn i - as far as I know

wedi ei rhestru - listed

gofod - space

welydd - walls

delfrydol - ideal

y flwyddyn gynt - the previous year

caniatâd - permission

brwdfrydedd - enthusiasm

Gobeithio'n wir na chafodd y RNLI na Tommy Turner yr achubwr bywyd eu galw allan yn aml dros y gwyliau ynde? Dan ni am aros yn Aberystwyth rwan i glywed sgwrs oedd ar Stiwdio ddydd Mawrth rhwng Nia Roberts a’r artist Mary Lloyd Jones am oriel newydd sydd wedi ei hagor yn Aberystwyth o'r enw Oriel Nwy. Wel dyna enw rhyfedd ar oriel gelf, meddech chi. Pam yr enw hwnnw tybed? Dyma Mary Lloyd Jones yn esbonio...

Geraint Lloyd - Marathon Llundain



ail-fyw - to relive

profiad anhygoel - incredible experience

awyrgylch - atmosphere

gweiddi - shouting

cefnogwyr - supporters

slofach - arafach

Dulyn - Dublin

y dorf - the crowd

sbio - edrych

codi pres - codi arian

Nia Roberts a Mary Lloyd Jones yn fan'na yn sôn am Oriel Nwy yn Aberystwyth. Weloch chi farathon Llundain yr wythnos diwetha? Dwn i ddim wir sut mae rhai o'r rhedwyr yn medru cwblhau'r cwrs, yn enwedig y rhai oedd efo gwisg ffansi. Doedd Sian Williams ddim yn gwisgo dim byd gwirion ac mi wnaeth hi orffen y ras mewn amser da iawn. Dyma hi efo Geraint Lloyd nos Lun diwetha yn sôn am y profiad o gymryd rhan yn y ras fawr...

Beti a'i Phobol - Dorothy Selleck



wastad - always

aduniad - reunion

yn rheolaidd - regularly

dygymod - to cope

treiddio mewn i'ch enaid - to enter your soul

ymladd ac ymdrechu - to fight and struggle

iaith corfforol - body language

ergyd - a blow

cymorth a chefnogaeth - help and support

geifr - goats

Da iawn Sian Williams ynde, yn cwblhau y marathon mewn pedair awr a phum munud. Pobol y lein oedd dan sylw Beti George wythnos diwetha wrth iddi sgwrsio efo Dorothy Selleck. Teuluoedd pobol oedd yn arfer gweithio ar lein rheilffordd ydy Pobol y Lein. Mae Dorothy Selleck yn eu hystyried yn rhyw fath o deulu iddi hi, a hynny ella gan iddi hi golli ei mam pan oedd hi'n ifanc iawn. Buodd Dorothy yn sgwrsio efo Beti am ei 'theulu' newydd hi ac am ei phlentyndod yn ardal Rhydymain yng Ngwynedd. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Ebrill 16, 2014

Nesaf

Diogelwch mewn gemau peldroed