Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Pobol y Môr - Gorbysgota
gorbysgota - to overfish
atgenhedlu - to reproduce
niferoedd - numbers
pryder - concern
heriau - challenges
peri gofid - to cause concern
bod yn wyliadwrus ohono - to be alert to it
yr hinsawdd yn cynhesu - the climate warming
yn bla - a plague
ddim o angenrheidrwydd - not necessarily
Aeth Alun Elidyr i Ben Llyn ddydd Llun efo'r rhaglen Pobol y Môr, ac mi gafodd o sgwrs ym Mhwllheli efo Greta Hughes sy’n gweithio i Lywodraeth Cymru yn delio efo pysgodfeydd. Gofynodd Alun iddi hi pam bod gorbysgota yn broblem fawr yn yr ardal a sut mae Greta a'i thîm yn delio efo'r sefyllfa yma? Dyma Greta'n esbonio.
Rhaglen Beti George - Meic Stephens
cyfrinachau - secrets
darganfod - to discover
ledled y wlad - across the country
ymwybodol - aware
gweithgar - active
ymlyniad - commitment
gweithredol - actively involved
Llafur - Labour
tueddu at - tend to
gwladgarwr - patriot
Greta Hughes yn fan'na yn sôn wrth Alun Elidir am broblebau gorbysgota ym Mhen Llyn. Mae'n bosib iawn eich bod wedi clywed am Meic Stevens y canwr, ond mae Meic Stephens arall, y Dr Meic Stephens yn enwog yng Nghymru yn ogystal. Roedd yn academydd, yn newyddiadurwr ac yn fardd. Dysgu Cymraeg fel oedolyn wnaeth Meic a buodd o farw ym mis Gorffennaf eleni. Dyma i chi glip o raglen pan oedd Meic Stephens yn westai ar raglen Beti George yn 2009lle gaethon ni wybod am un o gyfrinachau Meic.
Rhaglen Rececca Hayes - Ilid Ann Jones
cerddor - musician
mas - allan
sbïo - edrych
colur - make-up
mae o'n wag - it's empty
brifo - hurting
dwch (dwedwch) - say
whilmentan (South Wales) - rummaging around
ymbalfalu ( North Wales) - rummaging around
gwerthfawrogi'ch gonestrwydd - appreciate your honesty
Y diweddar Meic Stephens yn rhannu ychydig o'i hanes, a chofiwch mae hyd yn oed yr academyddion yn cael problemau efo'r treigladau weithiau! Roedd Rebecca Hayes yn fusneslyd iawn yr wythnos diwetha ac yn mynnu cael gwybod beth oedd ym mag y cerddor Ilid Ann Jones. Felly dyma Ilid yn agor ei bag ac yn rhannu ei gynnwys efo gwrandawyr Radio Cymru.
Rhaglen Ifan Ifans - Lowri Evans
trugareddau - thingamajigs
cerddorol - musical
profiadau gwych - wonderful experiences
gwledydd gwahanol - different countries
sbarduno'r diddordeb - to spark the interest
sa i'n siwr - dw i ddim yn siwr
unawdau - solos
deuawdau - duets
parti cyd-adrodd - recitation party
Mae'n rhaid bod bag anferth gan Ilid i gadw'r holl drugareddau yna!
Ac i orffen yr wythnos yma dyma i chi'r gantores Lowri Evans o Drefdraeth yng ngogledd Sir Benfro, neu Dudraeth fel mae o'n cael ei ddweud yn lleol, yn cofio mewn sgwrs gyda Ifan Ifans am ei dyddiau ysgol yn y pentre ble cafodd ei magu.
