Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi mai Betsan Powys sydd wedi’i phenodi yn Olygydd Rhaglenni Radio Cymru.
Bydd Betsan yn gweithio’n agos gyda Phennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru Wales, Sian Gwynedd, a hi fydd yn gyfrifol am gomisiynu a goruchwylio holl raglenni cyffredinol Radio Cymru.

Betsan Powys
Mae Betsan Powys, a fagwyd ym Mangor a Chaerdydd, wedi bod yn Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru Wales ers 2006, yn arwain y tîm yn olygyddol ac yn rheoli’r uned wleidyddol. Mae hi hefyd yn aelod o dîm rheoli’r adran newyddion. Mae gan Betsan brofiad helaeth o ohebu a chyflwyno yn Gymraeg a Saesneg ar ystod eang o bynciau ar raglenni newyddion a materion cyfoes gan gynnwys Panorama, Week In Week Out a’r Byd ar Bedwar. Hi oedd gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau BBC Cymru a chyflwynydd Mastermind Cymru ar S4C.
Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru Wales:
“Mae’n gyfnod heriol i Radio Cymru ond rydw i’n ffyddiog bod gan Betsan y sgiliau a’r profiad i ymgymryd yn egnïol â’r sialensau sy’n wynebu’r orsaf. Rydw i’n edrych ymlaen at ei gweld hi’n rhoi ei stamp ei hun ar y gwahanol raglenni a sicrhau bod y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig i’r gynulleidfa yn berthnasol ac o’r safon uchaf.”
Dywedodd Betsan Powys:
“Mae arwain Radio Cymru yn mynd â fi i gyfeiriad newydd ar ôl cyfnod cynhyrfus ym myd gwleidyddiaeth Cymru. Rwy’n edrych ymlaen i ddod i ‘nabod a chydweithio â staff Radio Cymru - tîm talentog a chreadigol sydd wedi dangos cymaint o ymroddiad i’r orsaf. Byddaf yn gwrando gyda diddordeb ar ‘Y Sgwrs’ a rwy’n gyffrous iawn am fy mod i nawr yn cael y cyfle i arwain y gwasanaeth i ddyfodol newydd.”
Bydd Betsan Powys yn cymryd yr awenau ar y 1af o Orffennaf.
