Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 05 Chwefror 2013
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Daf a Caryl - Rebecca Harries
gwobr -
adolygwyr -
araith - speech
yn gyfartal - equal
anwadal - fickle
corff ac enaid - body and soul
uchelgais - ambition
crefyddol - religious
arwain byddinoedd - to lead armies
rheoli a teyrnasu - rule and reign
"...efo un o actoresau gorau Cymru - Rebecca Harries. Ac nid fi yn unig sy'n ei disgrifio hi felly, enillodd hi wobr yr actores orau mewn seremoni arbennig oedd yn cael ei chynnal gan adolygwyr theatr Cymru. Mae Rebecca yn enwog am chwarae rhannau yn Belonging, Con-Passionate ac wrth gwrs Sali Mali! Hi oedd ein gwestai ar Daf a Caryl ddydd Iau a hynny ar ôl iddi hi ennill y wobr. Dyma oedd y tro cynta i adolygwyr theatr Cymru gynnal seremoni wobrwyo ac mi enillodd Rebecca am ei rhan hi yn 'Llanast' drama Theatr Bara Caws. Dyma hi'n sôn am y noson wobrwyo ac am y cymeriad fasai hi'n licio ei chwarae yn y dyfodol..."
Huw Stephens - Joy Formidable
cerdd - poem
clawr - cover
barddoniaeth - poetry
colled - a loss
cynhyrchu - to produce
synau - sounds
telynwraig - harpist (female)
gwyliau - festivals
cadarnhau - to confirm
"Rebecca Harries yn fan'na yn rhoi dipyn o wers hanes i ni am y Frenhines Margaret! Ddim yn aml y ffeindiwch chi gerdd Cymraeg ar glawr albwm, ond dyna fasech chi'n ei weld chi tasech chi'n prynu albwm newydd y band Joy Formidable. Ffurfiwyd y grwp yn nwy fil a saith ac er mai yn Saesneg maen nhw'n canu, roedd lle i'r gerdd Gymraeg ar glawr eu habwm. Rhydian, un o aelodau'r band ysgrifennodd y gerdd, ac mi ddaeth o ac aelod arall o'r band, Ritzy, i'r stwidio at Huw Stephens i son am eu halbwm newydd. Holodd Huw Stephens Rhydian i ddechrau am y gerdd... "
Nia - Pecyn Hywel
archifdy - archive
staer serth - steep stairs
cosi - to itch
crasu - to bake
cadw trefn - to keep order
swllt - a shilling
rhyfedd iawn - very strange
dodrefn - furniture
yn tyrru - to flock
arwyr - heroes
"Ella bod timau Talwrn y Beirdd ar streic ond dach chi'n dal yn medru clywed barddoniaeth ar Radio Cymru! Cerdd Rhydian o'r Joy Formidable yn fan'na. Sgwrs am hen simenau gaeth Hywel Gwynfryn yn Nolgellau ddydd Iau. Does yna yr un sinema yn Nolgellau y dyddiau hyn ond mae Tegwen Humphreys ac Ellen Thomas yn cofio'r adeg pan oedd dwy yn y dre- y Cosy a'r Plaza. Dyma'n nhw'n rhannu eu hatgofion efo Hywel... "
Manylu - Mynd i'r coleg
difaru - to regret
gradd yn y gyfraith - a law degree
twrnai - solicitor
cadw mewn cysylltiad - to keep in contact
yn flin - yn grac
cyngor - advice
sicrhau - to ensure
fel arall - otherwise
dyledion - debts
Da ynde - y Cosy oedd y lle cosi! Un peth sydd wedi newid yn fawr ers adeg y Plaza a'r Cosy ydy bod cymaint o bobol ifanc yn mynd i Brifysgol y dyddiau hyn. Ond oes yna waith iddyn nhw ar ôl gorffen eu cwrs? Ydy hi werth i'r bobl ifanc sydd yn y chweched dosbarth rwan feddwl mynd i'r coleg? Yn enwedig o gofio pa mor ddrud ydy hi i wneud hynny y dyddia 'ma. Dyna oedd y cwestiynau gaeth eu gofyn ar Manylu yr wythnos diwetha. Ac mi gaethon ni hanes un sy'n difaru mynd i'r coleg. Dyma Heledd Parry enillodd radd yn y gyfraith ond fethodd â chael swydd wedyn...
Iola Wyn - Aled Hall
offeryn - instrument
twlu - taflu
lled dda - eitha da
cyfweliad - interview
bant â ni - ffwrdd â ni
sbri - hwyl
yn sythu - frozen stiff
"Ia, a'r bechod mawr ydy bod nifer fawr o bobl ifanc yn yr un sefyllfa â Heledd ynde. Doedd dim trafferth cael swydd gan Aled Hall, un o Dri Tenor Cymru. A dweud y gwir mi roedd ganddo fo sawl swydd diddorol cyn iddo fo ddod yn enwog. Dan ni'n mynd i glywed am un o'r swyddi hynny sef gweithio efo cwmni Rocyn PA. Iola Wyn oedd yn cael yr hanes gan Aled a gan Hubert, oedd yn rhedeg y cwmni."


Mae