« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Dewis Hoff Awdur Cymru

Categorïau:

NewyddionNewyddion|13:06, Dydd Mawrth, 12 Chwefror 2013

Yn y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod y Llyfr, mae Radio Cymru – mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru – yn trefnu cystadleuaeth i ddod o hyd i hoff awdur Cymraeg Cymru.

Ar raglen radio Nia Roberts brynhawn Iau 7 Chwefror, cyhoeddwyd enwau’r deg awdur sydd ar y rhestr fer, sef Caradog Prichard, Islwyn Ffowc Elis, Angharad Price, Manon Steffan Ros, Dewi Prysor, Jon Gower, Kate Roberts, Caryl Lewis, Bethan Gwanas a William Owen Roberts.

Yn ôl Lowri Davies, Golygydd Rhaglenni Cyffredinol BBC Radio Cymru, “Mae Hoff Awdur Cymru yn brosiect cyffrous iawn, ac yn gyfle i ni drafod gwaith rhai o brif awduron Cymraeg Cymru. Ond y bobl biau’r dewis, ac fe fyddwn ni’n gofyn i wrandawyr Radio Cymru bleidleisio dros eu ffefryn o’r deg awdur sydd ar y rhestr fer – gan gyhoeddi ar Ddiwrnod y Llyfr, 7 Mawrth, pa enw sydd wedi dod i’r brig. Mae Radio Cymru’n dathlu Diwrnod y Llyfr yn flynyddol, ond eleni rydyn ni’n falch o gael cydweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru i ddarganfod beth yw barn darllenwyr drwy Gymru benbaladr.”

Lluniwyd y rhestr fer gan banel o arbenigwyr oedd yn cynnwys dau lyfrwerthwr, dau lyfrgellydd, cynrychiolwyr Llenyddiaeth Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, Merched y Wawr, Y Cymro, Golwg a Barn, yn ogystal â’r beirniad a’r adolygydd llenyddol adnabyddus Catrin Beard.

Yn ystod yr wythnos yn dechrau 18 Chwefror 2013, bydd gwesteion arbennig yn trafod dau o’r awduron hyn bob dydd ar raglen Nia. Yr wythnos ganlynol, o 25 Chwefror ymlaen, bydd modd i’r cyhoedd bleidleisio dros eu hoff awdur ar wefan Radio Cymru, a chyhoeddir enw’r enillydd ar Ddiwrnod y Llyfr, dydd Iau 7 Mawrth. I bleidleisio ewch at bbc.co.uk/radiocymru.

Y Cyngor Llyfrau sy’n cydlynu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru, a dywedodd Elwyn Jones, y Prif Weithredwr, “Mae hwn yn gyfle gwych i roi sylw i awduron Cymraeg a’u gwaith, a bydd yn sicr o annog llawer o drafodaeth ddiddorol ynghylch y rhestr fer, heb sôn am yr enillydd ei hun. Mae Diwrnod y Llyfr yn dathlu pwysigrwydd llythrennedd a darllen er mwyn pleser, ac rydym yn falch iawn o gydweithio gyda Radio Cymru a Llenyddiaeth Cymru ar y gystadleuaeth hon.”

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, “Rydym ni yn Llenyddiaeth Cymru wrth ein bodd yn cydweithio â’r BBC a’r Cyngor Llyfrau ar gynllun newydd, cyffrous. Mae’n rhoi cyfle i’r bobl bwysicaf oll – y darllenwyr – gymryd rhan mewn ymgyrch i hyrwyddo awduron Cymraeg, ac i gael hwyl yr un pryd trwy bleidleisio dros eu hoff awdur. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed y canlyniad!”

Rhestr Fer Hoff Awdur Cymru