Cerddoriaeth Gymraeg yn ôl ar BBC Radio Cymru
Mae’r BBC ac Eos wedi dod i gytundeb dros dro fydd yn golygu y bydd cerddoriaeth aelodau Eos yn dychwelyd i Radio Cymru ar unwaith.
Ers Ionawr 1af mae’r anghydfod am werth masnachol yr hawliau darlledu wedi golygu nad oedd gan y BBC yr hawl i ddarlledu cerddoriaeth aelodau Eos, y corff casglu newydd sy’n cynrychioli cerddorion a chyhoeddwyr Cymraeg.
Croesawyd y datblygiad gan Gyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies:
“Rwyf wrth fy modd bod Eos wedi caniatau i Radio Cymru chwarae cerddoriaeth eu haelodau unwaith eto. Mae hyn yn ddatblygiad pwysig sy’n sicrhau bod y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig i wrandawyr Radio Cymru unwaith eto gyda’r gorau.
"Mae cerddoriaeth Gymraeg yn hanfodol bwysig i Radio Cymru ac mae’r chwech wythnos ddiwethaf heb y gerddoriaeth wedi bod yn dipyn o hêr.
“Hoffwn ddiolch I wrandawyr Radio Cymru am eu hamynedd yn ystod yr anghydfod yn ogystal â staff Radio Cymru sydd wedi gweithio’n ddi-flino I gynnal y gwasanaeth o dan amodau anodd.
"Ein ffocws nawr yw cyrraedd cytundeb parhaol sy’n deg i gerddorion Cymraeg a thalwyr ffi’r drwydded. Mae’n galonogol ein bod nawr yn medru parhau gyda’n trafodaethau yn gwybod nad yw’r anghydfod bellach yn cael effaith ar raglenni Radio Cymru.”
Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru:
“Byddwn yn adfer cerddoriaeth aelodau Eos i Radio Cymru ar unwaith. Byddwn ni hefyd yn dychwelyd i amserlen lawn yr orsaf cyn gynted â phosib ac yn adfer yr oriau a gwtogwyd o ganlyniad I’r anghydfod môr fuan a sy’n ymarferol wythnos nesa.
“Yn dilyn y newidiadau diweddar i’n rhaglenni newyddion a chyhoeddaid heddiw rydw i’n ffyddiog bod Radio Cymru nawr yn gallu cynnig y gwasanaeth gorau posib i’n gwrandawyr.”
Yn dilyn cytundeb heddiw bydd Eos a’r BBC yn parhau a’u hymdrechion i ddod o hyd i gytundeb parhaol i’r anghydfod. Mae’r ddwy ochr wedi cytuno i drafod cychwyn ar broses o gymodi annibynol tra’n parhau i baratoi ar gyfer y Tribiwnlys Hawlfraint. Mae’r BBC wedi cynnig cefnogi costau cyfreithiol Eos i fyny at £50,000 mewn Tribiwnlys er mwyn sicrhau bod dadleuon yr aelodau am werth masnachol eu cerddoriaeth yn cael gwrandawiad teg.”


Mae