Ocsiwn Plant Mewn Angen Radio Cymru
Dyma restr o eitemau fydd ar gael yn Ocsiwn Plant Mewn Angen Radio Cymru yfory.
Mi fydd cyfle i chi roi eich cynnig trwy'r dydd ar Radio Cymru ar ddydd Gwener (Tachwedd 16), bydd y llinellau ffôn yn agor am 08:30 ac yn cau am 16:45. Yr unig ffordd i roi cynnig ydi drwy ffonio 03703 500 500.
1. Pryd o fwyd gyda Stephen Jones a Dwayne Peel ym mwyty’r Sosban yn Llanelli
2. Crys wedi ei lofnodi gan yr athletwr paralympaidd, Aled Sion Davies
3. Esgidiau pêl droed wedi eu llofnodi gan Joe Allen, Lerpwl
4. Esgidiau pêl droed wedi eu llofnodi gan Gareth Bale, Spurs
5. Crys a phêl wedi eu llofnodi gan dïm pel droed Cymru
6. Gwers delyn breifat gan Claire Jones a CD wedi ei arwyddo
7. Diwrnod o wylio adar efo Iolo Williams
8. Russell Jones yn treulio diwrnod yn eich gardd
9. Can wedi ei chyfansoddi gan Huw Chiswell
10. Hamper o lyfrau a chryno ddisgiau’r Nadolig gan gwmni Sain, Gomer, y Lolfa a Gwasg Carreg Gwalch
11. Only Men Aloud: tocynnau ar gyfer cyngherddau yn Llandudno a Chanolfan y Mileniwm a chyfle i gyfarfod y côr.
12. Penwythnos yr Ŵyl Gymreig i deulu o 4 yn Disneyland, Paris
13. Cap baseball Cymru a llun o Bryn Terfel wedi eu harwyddo ganddo
14. Safle Carafán yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych
15. 4 tocyn i weld drama One Man Two Guv’nors unai yn Llandudno neu Caerdydd, a chyfle i fynd gefn llwyfan i weld y set, a chyfarfod y cast ar ol y perfformiad.
16. Tipi i 4 yng ngwersyll Tipis Dyffryn Cledan.
17. Siwmper hwdi Gethin Jones wedi ei arwyddo.
18. Un o gerddi Dewi Pws yn ei lawysgrifen, wedi ei fframio mewn llechen Gymreig.


Mae