« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 16 Tachwedd 2012

Categorïau:

PigionPigion|15:07, Dydd Gwener, 16 Tachwedd 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Straeon Bob Lliw - Rhyfel

carcharor rhyfel - prisoner of war

brywdr waedlyd - bloody battle

lluoedd y cynghreiriaid - allies

yn ddiddiwedd - neverending

fel brain - like crows

dianc - to escape

heolydd - ffyrdd

ambell i ffynnon - occassional well

claddu'r meirw - to bury the dead

torri'r beddau - to dig the graves

"...a hithau'n Sul y Cofio ddydd Sul diwetha, efo storiau D.T. Davies, oedd yn garcharor rhyfel ynystod yr ail ryfel byd. Yn y clip yma cawn ni glywed sut y cafodd o ei ddal dan filwyr Yr Almaen ar ôl brwydr waedlyd iawn, lle cafodd llawer o'i ffrindiau eu lladd. Mae rhannau o'i stori swnio'n gyffrous iawn yn enwedig pan mae o'n disgrifio yr adeg pan oedden nhw'n trio cuddio oddi wrth yr Almaenwyr. Ond hawdd anghofio weithiau mai nid milwyr proffesiynol oedd gynnon ni yn fan'ma, ond bechgyn cyffredin, ifanc iawn oedd wedi cael eu hunain mewn sefyllfa anobeithiol... "

Yn y Ryc - Gareth a Barry

yr oes aur - the golden age

benthyg - to borrow

twla'r bêl - chuck the ball

y prawf - the test

anaf - injury

datblygu - to develop

hyfforddwr - coach

blaenwyr - forwards

yr haneri - the half backs

blaenasgellwr - wing forward

Dyna stori anhygoel ynde, sydd yn dod á'r rhyfel yn fyw iawn i lygaid y rhai ohonon ni sydd wedi bod digon ffodus i beidio gorfod byw trwy'r fath sefyllfa. Atgofion o frwydrau gwahanol iawn sydd gan Gareth Edwards a Barry John, fuodd yn gwisgo crysau rhif naw a deg dros dîm rygbi Cymru flynyddoeddd yn ôl. Wel a dweud y gwir roedd hi union pedwar deg pump o flynyddoedd i'r penwythnos diwetha pan ddechreuodd y ddau chwarae gyda'i gilydd dros eu gwlad, yn erbyn crysau duon Seland Newydd. Dyma glip sy'n rhoi syniad o be oedd tactegau tîm Cymru yn y gêm honno...

Iola Wyn - Ena

pencampwyr - champions

hunangofiant - autobiography

y gyfrol - the volume

ysbryd isel - low spirit

diniwed - innocent

hanesion diddorol iawn - very interesting stories

cyfrinach - secret

pobydd - baker

safonau uchel - high standards

cyfrifoldeb mawr - huge sponsibility

Bydd Cymru'n wynebu'r Crysau Duon eleni yn ystod gêmau'r Hydref, ac yn anffodus dydy pethau ddim yn edrych yn rhy dda ar ôl perfformiad Cymru ddydd Sadwrn diwetha. Dewch â Gareth a Barry'n ól- fedran nhw ddim gwneud llawer gwaeth! Ac o bencampwyr y byd rygbi i bencampwraig y gegin gyda'r gogyddes Ena Thomas. Dw i'n siwr bod rhai ohonoch chi'n cofio Ena ar raglenni teledu fel Heno, yn rhoi tips i ni ar sut i wella'n sgiliau coginio. Erbyn hyn mae Ena wedi sgwennu ei hunangofiant, efo ychydig o help Catrin Beard. Mi glywon ni'r ddwy ohonyn nhw'n siarad am y llyfr ac am fywyd Ena ar raglen Iola Wyn ddydd Llun. Dyma i chi flas o'r sgwrs...

Stiwdio - Animeiddio

arddangosfa animeiddio - animation exhibition

ymwybodol o'r grefft - aware of the craft

cymleth - complicated

trosolwg - overview

dathlu'r diwydiant - celebrating the industry

dylanwad - influence

chwyldro - revolution

clod - praise

ffynnu - thriving

canrif - a century

"Ia mi fedra i weld Ena'n seiclo rwan, ffwl pelt hyd strydoedd LLundain na! Mi roedd Ena'n un o sêr cynnar iawn S4C - roedd hi i'w gweld yn yr wythdegau pan ddechreuodd y sianel. Amseru da ganddi felly i ddod a'i llyfr hi allan yn ystod blwyddyn penblwydd y sianel yn drideg oed. Ac mi gewch chi weld rhagor o sêr gwreiddiol y sianel os ewch chi am dro i'r Amgeuddfa Genedlaethol yn Nghaerdydd. Mae na arddangosfa amineiddio i'w gweld yno ar hyn o bryd, ac mi fuodd Kate Crockett yn treulio oriau yno yng nghwmni Superted a'i ffrindia. Tra roedd hi yno mi gafodd hi sgwrs efo teulu oedd wedi bod yn gweld yr arddangosfa sef, Elin ac Aiden, a’u plant Rhys, Iona ac Efa. Mi gaeth hi sgwrs efo Owain Rhys hefyd - curadur yr arddangosfa. "

Daf a Caryl - Cân y Babis

llon - cheerful

yn ei grud - in his cradle

pendraw'r byd - the far end of the world

llawenydd - happiness

llawer o sbri - llawer o hwyl

prifddinas - capital city

ein gorau glas - our very best

rhedeg y deyrnas - to run the kingdom

efaill - twin

degawd - decade

"A dw i'n gwybod yn iawn am rai fydd yn gwirioni ar Superted a Sam Tân mewn ychydig o flynyddoedd. Pwy felly? Wel babis mis Hydref wrth gwrs. A'r mis yma mi ddaeth Mei Gwynedd o’r band Sibrydion i ganu gân o groeso i'r babis bach. Mwynhewch... "