« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

'Gwener Gwerin' ar Radio Cymru

Categorïau:

NewyddionNewyddion|15:16, Dydd Mercher, 25 Ebrill 2012

Drwy Ddydd Gwener Ebrill 27 2012 bydd Radio Cymru yn rhoi pwyslais ar y gorau o gerddoriaeth werin gyda sesiynau byw a sgyrsiau gyda chantorion gwerin Cymru.

Bydd Dafydd a Caryl yn gofyn i'r gwrandawyr gynnig eu hoff gân werin ac yn cael sgwrs gydag Angharad Jenkins o'r grŵp Calan.

Nia Roberts fydd yn darlledu'n fyw o Dŷ Siamas, Canolfan Genedlaethlol Cerddoriaeth Werin Cymru, yn Nolgellau. Bydd sgwrs gyda Siân James a thrac ecscliwsif oddi ar ei CD newydd. Hefyd bydd Arfon Gwilym ac Ywain Myfyr yn cyfrannu i'r rhaglen.

Geraint Lloyd fydd yn cael sgwrs a chân ecscliwsif gydag aelodau Parti Gungrog, bydd Gai Toms yn perfformio sesiwn byw ar raglen Lisa Gwilym, Ryland Teifi yn sgwrsio hefo Ifan Evans a Threatmantics yn perfformio sesiwn byw ar raglen Huw Evans.

Gwefan - BBC Cerddoriaeth

Mis o Gerddoriaeth Radio Cymru